Deilen gron
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Umbilicus rupestris)
Umbilicus rupestris | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau craidd |
Urdd: | Saxifragales |
Teulu: | Crassulaceae |
Genws: | Umbilicus (genws) |
Rhywogaeth: | U. rupestris |
Enw deuenwol | |
Umbilicus rupestris Richard Anthony Salisbury | |
Cyfystyron | |
'Umbilicus gaditanus |
Planhigyn blodeuol a deugotyledon suddlon yw'r ddeilen gron (enw benywaidd). Mae'n perthyn i'r teulu Crassulaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Umbilicus rupestris a'r enw Saesneg yw Navelwort.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Deilen Gron, Bara Ceiniogen, Bogail Gwener, Bogail y Bugail, Bogail y Forwyn, Bogeil-lys, Bogel Gwener, Bogel y Forwyn, Ceiniogllys y Fagwyr, Crondoddaidd, Dail Ceiniog, Llysiau Ceiniog, Llysiau y Fogel.
Esblygodd y planhigyn hwn tua 100-60 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn nwyrain Affrica a thiroedd Môr y Canoldir.
Meddyginiaethau a Llên Gwerin
[golygu | golygu cod]- "Roedd nain yn tyfu'r planhigyn i gael gwared o gyrn ar fodia'i thraed." Roedd yn enedigol o’r Fanod a bu’n rhaid iddi ddod a dŵr o Ffynnon Doctor i'w dyfrio. "Mae'r planhigion yn dal i dyfu'n ein gardd fach".[2]
- "Pan oeddwn i ́n blentyn byddai fy mam yn torri ́r ddeilen gron yn fach a ́i rhoi mewn ́gauze ́ i'w rhoi ar ben ddyn [pen düyn] neu fyddigiad. Mi fyddai ́n saff o fod wedi torri mewn rhyw awr."[3]
- "Cofio defnyddio blodau hwn i wneud "pwdin reis" wrth chwarae ty bach".[4]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Hugh G. Roberts ym Mwletin Llên Natur 33
- ↑ Bethan Wyn Jones ym Mwletin Llên Natur 33
- ↑ Ann Jones, Necyn, ar lafar i DB