Tŷ Petersen

Oddi ar Wicipedia
Petersen House
Math, amgueddfa Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1849 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolFord's Theatre National Historic Site Edit this on Wikidata
SirWashington Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau38.897°N 77.026°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolVictorian architecture Edit this on Wikidata

Tŷ teras arddull ffederal o’r 19eg ganrif yw Tŷ Petersen, yn 516 10fed Stryd NW yn Washington, D.C. Ar 15 Ebrill 1865, bu farw Arlywydd yr Unol Daleithiau, Abraham Lincoln yno ar ôl cael ei saethu y noson flaenorol yn y Theatr Ford, a leolir ar draws y stryd. Adeiladwyd y tŷ ym 1849 gan William A. Petersen, teiliwr o'r Almaen. Ar un adeg rhentodd y dyfodol Is-lywydd John C. Breckinridge, ffrind i deulu Lincoln, y tŷ hwn ym 1852.[1] Yn 1865, cafodd ei ddefnyddio fel tŷ preswyl. Mae wedi gwasanaethu fel amgueddfa ers y 1930au, a weinyddir gan y Gwasanaeth Parc Cenedlaethol.

Llofruddiaeth Lincoln[golygu | golygu cod]

Ar noson 14 Ebrill 1865, roedd Lincoln a'i wraig Mary Todd yn mynychu perfformiad o Our American Cousin pan aeth John Wilkes Booth, actor a chydymdeimlwr Deheuol, i mewn i'r blwch a saethu'r Arlywydd yng nghefn y pen. Roedd Henry Rathbone a Clara Harris hefyd yn y blwch gyda’r ddau Lincoln, a dioddefodd Rathbone glwyfau trywanu difrifol wrth geisio atal Booth rhag dianc. Gwnaeth meddygon gan gynnwys Charles Leale a Charles Sabin Taft edrych ar Lincoln yn y blwch cyn iddo gael i gario ar draws y stryd i Dŷ Petersen, lle gwnaeth y lletywr Henry Safford yn eu cyfeirio y tu mewn.[2]

Gwaeth meddygon parhau i dynnu ceuladau gwaed a oedd yn ffurfio dros y clwyf, ac i dywallt mater a hylif gormodol yr ymennydd lle'r oedd y fwled wedi mynd i mewn i ben Lincoln, er mwyn lleihau pwysau ar yr ymennydd. Fodd bynnag, parhaodd y gwaedlif allanol a mewnol trwy gydol y nos.

Yn ystod y nos ac yn gynnar yn y bore, roedd gwarchodwyr yn patrolio y tu allan i atal gwylwyr rhag dod y tu mewn i'r tŷ. Caniatawyd i aelodau Cabinet Lincoln, Cadfridogion, ac aelodau amrywiol y Gyngres weld yr Arlywydd.

Bu farw Lincoln yn y tŷ ar 15 Ebrill 1865, am 7:22yb, yn 56 oed.[3] Ymhlith yr unigolion yn yr ystafell pan fu farw roedd ei fab Robert Todd Lincoln, y Seneddwr Charles Sumner, y cadfridogion Henry Wager Halleck, Richard James Oglesby a Montgomery C. Meigs, a'r Ysgrifennydd Rhyfel Edwin Stanton. Canfuwyd Booth yn Virginia 11 diwrnod yn ddiweddarach lle chafodd ei saethu gan luoedd yr Undeb, gan farw dwy awr yn ddiweddarach.

Heddiw[golygu | golygu cod]

Tŷ Petersen, 1925. Ar y brig mae Osborn HI Oldroyd, awdurdod ar Abraham Lincoln

Er 1933, mae'r Gwasanaeth Parc Cenedlaethol wedi ei gynnal fel amgueddfa hanesyddol, yn ail-greu'r olygfa adeg marwolaeth Lincoln. Roedd y gwely yr oedd Lincoln yn defnyddio ac eitemau eraill o'r ystafell wely wedi'u prynu gan gasglwr Chicago, Charles F. Gunther, ac maent bellach yn eiddo i, ac yn cael ei arddangos yn, Amgueddfa Hanes Chicago.[4][5] Fodd bynnag, mae atgynyrchiadau wedi cymryd eu lle yn y tŷ gwreiddiol,[6] ynghyd â'r glustog a'r casys clustog waedlyd wreiddiol a ddefnyddir gan Lincoln.[7] Mae'r tŷ hefyd yn cynnwys twr mawr o lyfrau am Lincoln.

Heddiw, gweinyddir Tŷ Petersen fel rhan o Safle Hanesyddol Cenedlaethol Theatr Ford. Fel arfer mae'r tŷ ar agor i ymwelwyr bob dydd o 9:00yb i 5:00yp.[8] Mae mynediad am ddim, ond mae angen tocyn amser.[2]

Delweddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Davis, William C. (2010). Breckinridge: Statesman, Soldier, Symbol. Lexington, Kentucky: The University Press of Kentucky. tt. 74, 513–514. ISBN 0807100684.
  2. 2.0 2.1 Petersen House Archifwyd 2009-03-26 yn y Peiriant Wayback. at Ford's Theatre website
  3. "Hotels and Other Public Buildings: The Petersen House".
  4. Ted Knutson. "Believe it or not, museum collections tell a story". Chicago Tribune. 27 Gorffennaf 1984. LF16.
  5. http://lincolnat200.org/exhibits/show/nowhebelongs/tyrannis/deathbed[dolen marw]
  6. "The House Where Lincoln Died in Washington, D.C. - Attraction - Frommer's". www.frommers.com. Cyrchwyd 6 Ebrill 2018.
  7. Brown, David. "Is Lincoln Earliest Recorded Case of Rare Disease?". The Washington Post. Cyrchwyd 22 Mai 2010.
  8. "Ford's Theatre (U.S. National Park Service)". www.nps.gov. Cyrchwyd 6 Ebrill 2018.