Tywysogaeth Orange
Gwedd
| Enghraifft o: | Tywysogaeth |
|---|---|
| Daeth i ben | 1713 |
| Dechrau/Sefydlu | 1163 |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Ffrainc |
| Dynodwyr | |

Tywysogaeth hanesyddol yn ne Ffrainc oedd Tywysogaeth Orange (Ffrangeg: Principauté d'Orange). Roedd yn gyfangwbl o fewn Profens. Y brifddinas oedd dinas Orange.
Ffurfiwyd y dywysogaeth yn 1163, pan roddodd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Ffrederic I annibyniaeth o fewn yr ymerodraeth i Sir Orange. Daeth y dywysogaeth yn rhan o diriogaethau gwasgaredig brenhinllin Orange-Nassau wedi i Wiliam I etifeddu teitl Tywysog Orange yn 1544. Dan Gytundeb Utrecht yn 1713 daeth y dywysogaeth yn rhan o Ffrainc.
