Neidio i'r cynnwys

Tyler Rees

Oddi ar Wicipedia
Tyler Rees
Ganwyd6 Chwefror 1999 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr snwcer Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Mae Tyler Rees (ganed 6 Chwefror 1999) yn chwaraewr snwcer o Gymru. Mae'n hannu o Lanelli, Sir Gaerfyrddin. Ef oedd Pencampwr Snwcer Ewropeaidd Dan-18 yn 2016.

Ym mis Chwefror 2016, fe ymunodd Rees â Phencampwriaeth Snwcer Ewropeaidd Dan-18 EBSA 2016 fel y 15fed hedyn, gan lwyddo i gyrraedd y rownd derfynol lle y maeddodd ei gyd-wladwr Jackson Page o 5-2 yn y rownd derfynol i ennill ei bencampwriaeth gyntaf. O ganlyniad, dyfarnwyd lle i Rees yn y rowndiau cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Snwcer y Byd 2016. Collodd o 10-0 yno yn erbyn Jimmy Robertson.[1] Y tymor canlynol, dyfarnwyd y cerdyn gwyllt i Rees ym Mhencampwriaeth Agored Cymru 2017.[2]  Fodd bynnag, cafodd ei drechu yn y rownd gyntaf o 4-1 gan Jamie Jones. Dyfarnwyd lle i Rees eto yn y rowndiau cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth y Byd, lle y cafodd ei orchfygu unwaith eto yn y rownd gyntaf, gan golli o 10-2 yn erbyn Xiao Guodong o Tsieina

Rowndiau Terfynol ei yrfa

[golygu | golygu cod]

Rownd derfynol amatur: 2 (1 teitl, 1 ail safle)

[golygu | golygu cod]
Outcome No. Year Championship Opponent in the final Score
Winner 1. 2016 EBSA European Under-18 Snooker Championships Page !Jackson Page 5–2
Runner-up 1. 2018 EBSA European Under-21 Snooker Championships Page !Simon Lichtenberg 3–6

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Newstead, Simon (12 April 2016). "Davis beaten in World Championship qualifying". Bexhill Observer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-07. Cyrchwyd 2 May 2016.
  2. "Meet the teenagers rocking Welsh snooker". BBC Sport. Cyrchwyd 15 February 2017.