Twinsters
Twinsters | |
---|---|
Cyfarwyddwyd gan |
|
Sgript | Samantha Futerman |
Yn serennu |
|
Cerddoriaeth gan |
|
Sinematograffi | Ryan Miyamoto |
Golygwyd gan | Jeff Consiglio |
Stiwdio |
|
Dosbarthwyd gan | Netflix |
Rhyddhawyd gan |
|
Hyd y ffilm (amser) | 81 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Ffilm ddogfen 2015 yw Twinsters sy'n adrodd y stori go-iawn o ddwy chwaer unfath, wedi'u gwahanu ar enedigaeth, yn darganfod ei gilydd ar-lein, cyfarfod, a cadarnhau eu hunaniaeth gyda phrawf DNA ac yna'n archwilio agweddau o'u cefndir gyda'i gilydd.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Myfyrwraig Ffrengig yw Anaïs Bordier sy'n astudio yn y DU. Mae'n eistedd ar fws yn Llundain pan mae ffrind yn anfon llun iddi wedi ei gymryd o fideo YouTube. Mae hi'n cael ei synnu gan debygrwydd pryd a gwedd y fenyw Americanaidd yn y fideo iddi hi ei hun, ond yn methu dod o hyd i fwy o wybodaeth. Rhai wythnosau'n ddiweddarach mae hi'n cael dolen i drelar y ffilm 21 & Over sy'n cynnwys yr un fenyw. Ar ôl ychydig o ymchwil mae'n darganfod mai ei doppelganger yw actores o'r enw Samantha Futerman. Fel Bordier cafodd Futerman ei geni yn Ne Corea a chafodd hi ei mabwysiadu fel babi. Mae Bordier hefyd yn synnu i ddarganfod eu bod nhw yn rhannu dyddiad geni, felly anfonodd hi neges Facebook at ei gefell posibl.
Plot
[golygu | golygu cod]Mae'r ffilm yn agor gyda Futerman yn egluro i'r gynulleidfa ei bod am rannu'r stori wallgof a ddigwyddodd iddi ychydig ddyddiau ynghynt. Mae'n cyflwyno ei theulu ac yn egluro ei bod yn derbyn cais ffrind ar Facebook gan ddieithryn, a phan mae hi'n edrych ar lun proffil y cyfrif mae hi'n gweld ei wyneb ei hun yn edrych yn ôl. Mae hi'n derbyn y cais ffrind ac yn cael neges gan Bordier sy'n lledawgrymu yn gryf y gallant fod yn efeilliaid a gofyn iddi am ragor o fanylion am ble cafodd ei geni. Mae'r ddwy wraig yn anfon negeseuon testun yn ôl ac ymlaen ac yn cytuno i siarad â'i gilydd ar Skype.
Mae Futerman yn mynd i weld yr arbenigwr gefeilliad Dr Nancy Segal ac mae'r ddwy ferch yn cymryd samplau DNA ar yr un pryd wrth ddefnyddio Skype. Mae taith i Lundain yn cael ei drefnu ac mae'r merched yn cyfarfod, gyda ffrindiau yn cynorthwyo. Y noson honno maen nhw'n siarad â Dr Segal dros Skype ac mae hi yn cadarnhau eu bod nhw'n efeilliaid unfath. Mae'r ffilm yn parhau i ddogfennu eu profiadau, gan gynnwys ymweliad Bordier i Futerman yng Nghaliffornia, a thaith wedi hynny i Seoul ar gyfer cynhadledd o blant mabwysiedig Corea. Drwy gydol yr amser, maen nhw wedi ceisio cysylltu a'u mam geni, sy'n gwadu cael gefeilliaid. Ar y diwedd, maen nhw'n cyfansoddi neges i'r wraig hon, i ddiolch iddi am roi bywyd iddyn nhw.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Twinsters ar wefan Internet Movie Database