Tver
![]() | |
![]() | |
Math |
tref/dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Afon Tvertsa ![]() |
| |
Poblogaeth |
419,363 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Alexey Ogonkov ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Bergamo, Osnabrück, Besançon, Veliko Tarnovo, Khmelnytskyi, Wcrain, Veliko Tarnovo Municipality, Kaposvár ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Oblast Tver ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
152.22 km² ![]() |
Uwch y môr |
135 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Volga ![]() |
Cyfesurynnau |
56.857828°N 35.921928°E ![]() |
Cod post |
170000–179999 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Alexey Ogonkov ![]() |
![]() | |
Dinas yng nghanolbarth Rwsia Ewropeaidd yw Tver (Rwsieg Тверь / Tver'), canolfan weinyddol oblast Tver. Mae'n borthladd ar ran uchaf Afon Volga, lle mae Afon Tvertsa yn ymuno â hi. Fe'i lleolir 167 km i'r gogledd-orllewin i Moscow, a 485 km i'r de-ddwyrain i St Petersburg ar brif ffyrdd a'r rheilffordd rhwng y ddwy. Sylfaenwyd tywysogaeth rymus yn y ddinas yn yr Oesoedd Canol. Ailenwyd y ddinas fel Kalinin (ar ôl y chwyldroadwr Mikhail Kalinin) ym 1931, ond dychwelodd i'w henw gwreiddiol ym 1990. Ei phoblogaeth yw 408,903 (Cyfrifiad 2002).
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Tver yn ddinas hanesyddol. Yn y 13g a dechrau'r 14g, fe dyfodd fel canolfan fasnachol, a daeth tywysogaeth Tver i fod ymysg tywysogaethau grymusaf yr ardal. Difethwyd rhannau helaeth o'r ddinas mewn gwrthryfel yn erbyn rheolaeth y Mongoliaid ym 1327, a dechreuodd ei dylanwad leihau o hyn ymlaen. Un o ddinesyddion enwocaf Tver oedd Afanasy Nikitin, marsiandwr o'r ddinas a fordwyodd i India a de-ddwyrain Asia o 1466 hyd 1477 ac a ysgrifennodd ddisgrifiad o'i daith. Meddiannwyd y ddinas gan luoedd tywysogaeth fawr Moscow o dan Ifan III ym 1485. Collodd ei hannibyniaeth o hyn ymlaen, gan ddod yn rhan o wladwriaeth ganolog Rwsia oedd yn ffurfio o gwmpas Moscow.