Tsafasieg
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Iaith Dyrcaidd yw Tsafasieg a siaredir gan y Tsafasiaid yn Tsafasia a thiroedd cyfagos ar hyd ganol Afon Volga, yng nghanolbarth Rwsia Ewropeaidd. Dyma'r unig iaith fyw sydd yn disgyn o'r hen iaith Folgareg. Mae Tsafasieg yn dra-gwahanol i'r ieithoedd Tyrcaidd eraill, ac ar un pryd roedd ieithyddion yn credu iddi perthyn i gangen rhwng yr ieithoedd Tyrcaidd a Mongolaidd, neu yn ffurf Dyrcigedig ar iaith Ffinno-Wgrig.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Chuvash language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Tachwedd 2019.