Trychineb Lag BaOmer, 2021
Torf o bererinion yng ngŵyl Lag BaOmer yn ystod y dyddiau wedi'r drychineb. | |
Enghraifft o'r canlynol | trychineb |
---|---|
Dyddiad | 30 Ebrill 2021 |
Lladdwyd | 45 |
Rhan o | 2021 in Israel |
Lleoliad | tomb of Shimon bar Yochai, Meron |
Gwladwriaeth | Israel |
Rhanbarth | Merom HaGalil Regional Council |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwasgfa dorfol yn ystod gŵyl grefyddol Lag BaOmer ym Meron, Israel, ar 30 Ebrill 2021 oedd trychineb Lag BaOmer. Bu farw 45 o bobl ac anafwyd rhyw 150, y mwyafrif ohonynt yn ddynion a bechgyn o enwad yr Iddewon Haredi.[1] Hon oedd y drychineb waethaf, nad oedd yn gyrch milwrol neu yn achos o derfysgaeth, yn hanes Gwladwriaeth Israel.[2]
Dyma oedd yr ŵyl grefyddol sylweddol gyntaf a gynhaliwyd yn gyfreithlon ers i Israel godi'r holl gyfyngiadau ers dechrau pandemig COVID-19.[3] Digwyddodd y drychineb ychydig cyn un o'r gloch y bore ar hyd un o'r llwybrau cul sydd yn cysylltu llwyfannau awyr-agored yr ŵyl. Yn ôl rhai llygad-dystion cychwynnodd y wasgfa wedi i'r heddlu gau'r dramwyfa, ond yn ôl ffynonellau'r heddlu fe'i achoswyd gan bobl yn syrthio ar risiau. Wrth i'r rhes ar flaen y dorf cwympo i'r llawr, disgynnodd y llif o bobl tu ôl iddynt ar eu pennau.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Israel crush: Israel mourns as festival crush victims identified", BBC (1 Mai 2021). Adalwyd ar 1 Mai 2021.
- ↑ (Saesneg) Tzvi Joffre, "In Lag Ba'omer Mount Meron stampede 45 killed, at least 150 injured", The Jerusalem Post (1 Mai 2021). Adalwyd ar 1 Mai 2021.
- ↑ "Mwy na 40 o bobl wedi marw mewn gŵyl grefyddol yn Israel", Golwg360 (30 Ebrill 2021). Adalwyd ar 1 Mai 2021.