Troed-yr-ŵydd gwyn
| Chenopodium album | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau craidd |
| Urdd: | Caryophyllales |
| Teulu: | Chenopodiaceae |
| Genws: | Chenopodium |
| Rhywogaeth: | C. album |
| Enw deuenwol | |
| Chenopodium album Carl Linnaeus | |
Planhigyn blodeuol blynyddol sy'n cael ei gyfrif yn chwynyn gan y garddwr yw Troed-yr-ŵydd gwyn sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Chenopodiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Chenopodium album a'r enw Saesneg yw Fat hen.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Tafod yr Oen, Blodau'r Domen, Gwydd-droed Bwytadwy, Gwydd-droed Gwyn, Gwydd-droed Gwynaidd, Troed yr Wydd, Troed yr Wydd Gwynaidd.
Yn India, caiff ei dyfu er mwyn ei fwyta; yno fe'i gelwir yn bathua neu bathuwa (बथुआ) (Marathi: चाकवत).[2]
Ecoleg
[golygu | golygu cod]Mae‘r planhigyn yn cael ei ffafrio i ymledu am gyfnodau ar hyd ochr ffyrdd ar ôl gaeafau celyd megis 2011, yn dilyn gaeaf caled 2010 pan halltwyd y ffyrdd yn helaeth rhag rhew. Pam arall fyddai planhigyn yn ffynnu yn y fath le, lle mae dŵr hallt wedi llifo i lawr camber y ffordd a chrynhoi? Mae’n perthyn i deulu’r Chenopodiaceae sydd yn cynnwys rhywogaethau fel yr Atriplex sydd wrth eu bodd ar lan y môr ac mewn corsydd heli.[3]

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur[dolen farw] Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ [http: //www.flowersofindia.net/catalog/slides/Bathua.html "Chenopodium album - Bathua"] Check
|url=value (help). Flowersofindia.net. Cyrchwyd 2013-08-15. - ↑ "Bwletin Llên Natur 41" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-01-16. Cyrchwyd 2019-03-02.
