Troed-yr-ŵydd gwritgoch

Oddi ar Wicipedia
Chenopodium capitatum
Delwedd o'r rhywogaeth
Statws cadwraeth

Diogel  (NatureServe)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Rhaniad: Pteridophyta
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Amaranthaceae
Genws: Blitum
Rhywogaeth: B. capitatum
Enw deuenwol
Blitum capitatum
L.

Planhigyn blodeuol yw Troed-yr-ŵydd gwritgoch sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Amaranthaceae yn y genws Blitum. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Chenopodium capitatum a'r enw Saesneg yw Strawberry-blite. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Troed yr ŵydd Writgoch. Mae'n frodorol o Gyfandir America ond bellach hefyd ar gael yn Ewrop a Seland Newydd.

Mae'r blodau'n fychan iawn, yn goch - yn ymdebygu i fefus - a gellir eu bwyta. Arferid defnyddio sudd y blodau i lifo brethyn. Mae'r ffrwythau'n cynnwys hadau duon tua 0.7-1.2 mm o hyd.[1] Mae'r dail a'r bonyn yn fwytadwy yn amrwd neu wedi'u coginio.[2]

Mae'n blanhigyn lluosflwydd. Nid oes ganddo stipwl (neu ddeilen fach). Fel arfer mae'r dail yn ddanheddog.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Johnson, Derek; Kershaw, Linda; MacKinnon, Andy; Pojar, Jim (1995). Plants of the Western Boreal Forest and Aspen Parkland. Lone Pine Publishing. ISBN 1-55105-058-7Nodyn:Inconsistent citations
  2. "Strawberry-blite (Chenopodium capitatum)". Northern Bushcraft. Cyrchwyd 27 Ebrill 2011.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: