Neidio i'r cynnwys

Tro

Oddi ar Wicipedia

Ap realiti estynedig o enwau lleoedd cynhenid ydy Tro. Daeth y syniad o greu ap o enwau’r tirwedd i fodolaeth yn dilyn trafodaethau ar ddiwedd cynadleddau a gynhaliwyd yn enw Mynyddoedd Pawb yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn. Mynyddoedd Pawb, Cwmni Galactig a AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy sy’n gyfrifol am yr ap. Fe sicrhawyd grant Cymraeg 2050 i gynnal y prosiect, grant sy’n cael ei roi i brosiectau sydd a photensial o gyfranu tuag at nôd y llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Mae’r prosiect hefyd yn cyd-weithio hefo Menter Iaith Sir Ddinbych a Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

Mae Tro yn cynnwys rhan o lwybr Gogleddol Clawdd Offa sy’n ymestyn o Brestatyn i’r Waun. Wrth gerdded y llwybr wedi lawrlwytho’r ap, mae modd i’r ffôn fach ddirgrynu yn eich poced pan o fewn dalgylch enw arbennig, mae modd edrych ar yr olygfa trwy sgrin y ffôn symudol. Wrth edrych trwy’r sgrîn y ffôn mae enwau’r llefydd yn ymddangos ar y llefydd cywir. Mae modd rhoi eich bys wrth ymyl yr enw ar y sgrin ermwyn clywed yr enw'n cael ei ynganu'n gywir gan amrywiaeth o leisiau lleol. Mae cyfle hefyd i ddysgu mwy am amryw o'r enwau a'r lleoliadau, ystyron rhai o’r enwau, hanesion a chwedlau perthnasol wrth roi eich bys ar symbol bychan arall sydd wrth ymyl yr enw.

Mae modd mynd i safle we Tro.cymru [1] Archifwyd 2019-04-10 yn y Peiriant Wayback er mwyn lawrlwytho’r ap, a dod o hyd i fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Cymraeg lleol trwy fynd oddi yno wedyn i wefanau'r mentrau iaith a mwy.

Cafwyd cymorth gan Hywel Wyn Owen a chaniatad i ddefnyddio’r llyfrau Dictionary of the Place-Names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, a Placenames of Flintshire, gan Hywel Wyn Owen a Ken Lloyd Gruffydd fel ffynnhonellau gwybodaeth ar gyfer Tro.

Mae’r ap yn cael ei anelu at y diwydiant awyr agored, bobl leol, ysgolion ac ymwelwyr o bob oed. Ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ydi ardal beilot y prosiect.