Menter Iaith Sir Ddinbych

Oddi ar Wicipedia
Logo Menter Iaith Sir Ddinbych

Sefydlwyd Menter Iaith Sir Ddinbych yn 2003 pan esblygodd o’r hen Fenter Iaith Dinbych-Conwy. Mae Menter Sir Ddinbych yn rhan o rwydwaith Mentrau Iaith Cymru. Lleolir y fenter yn Ninbych, Sir Ddinbych.

Bwriad a Nod y Fenter[golygu | golygu cod]

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn elusen gofrestredig sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Sir Ddinbych. Mae'r Fenter yn cydweithio â sawl partner a grŵp cymunedol i weithredu eu hamcanion, gyda’r prif nod o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau.

Nod y Mentrau Iaith yw hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru.

Y Mentrau Iaith yw’r ffordd mae cymunedau lleol Cymru yn gweithredu er budd y Gymraeg. Mae wedi bod yn fodel llwyddiannus dros y blynyddoedd ac yn cael ei gydnabod fel ffordd effeithiol o ddatblygu cymunedol sydd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.

Mae’r Mentrau Iaith yn cael eu rheoli gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol ac maent yn gweithio mewn partneriaeth gydag amryw o sefydliadau eraill.

Pwyllgor Rheoli a staff Menter Iaith Sir Ddinbych[golygu | golygu cod]

Pwyllgor Rheoli[golygu | golygu cod]

  • Alice Jones – Cadeirydd
  • Arwel Roberts - Is-Gadeirydd
  • Anna Edwards - Ysgrifennydd
  • Owain Morris – Trysorydd
  • Emrys Wynne
  • Eleri Llwyd
  • Gwenan Prysor
  • Alaw Griffith
  • Bethan Cartwright
  • Menna Jones
  • Meirick Lloyd Davies

Staff y Fenter[golygu | golygu cod]

Ruth Williams - Prif Swyddog

Iorwen Jones - Swyddog Cyllid a Busnes

Gwion Tomos-Jones - Swyddog Datblygu Cymunedol

Buddug Davies - Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau

Nia Morris - Swyddog Cymraeg Byd Busnes

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mentrau Iaith Cymru

Dolenni[golygu | golygu cod]