Traeth Bychan

Oddi ar Wicipedia
Traeth Bychan
Mathtraeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3391°N 4.2316°W Edit this on Wikidata
Map

Lleolir Traeth Bychan ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn, Cymru. Mae yng nhymuned Llanfair Mathafarn Eithaf.

Wyneba'r traeth i'r dwyrain; gan hynny mae'n cynnig cysgod oddi wrth y gwyntoedd cryfion o'r de.

Yn ystod misoedd yr haf mae'n draeth poblogaidd pan mewnlifai llawer o ymwelwyr i'r ynys. Ar gyfnodau eraill mae'r traeth yn llecyn tawel. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg ger y traeth. Dyma'r fan lle daeth y llong-danfor HMS Thetis i'r lan wedi llongddrylliad tra'n cynnal treialon yn 1939.

Ceir caffi a thoiledau cyhoeddus oddi fewn y maes parcio. Gerllaw mae tref Benllech a phentref Marianglas.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato