Traddodiad Ofnus (band)

Oddi ar Wicipedia

Grŵp pop o'r 1980au hwyr oedd Traddodiad Ofnus. Y prif aelodau oedd Mark Lugg a Gareth Potter. Roedd Traddodiad Ofnus yn rhagflaenu grŵp mwy prif-ffrwd, Tŷ Gwydr. Bu Gareth Potter hefyd yn band Clustiau Cŵn a Pop Negatif Wastad.

Cyhoeddwyd eu caneuon ar label Contrictor a label Ankst ac ymddangosodd y band ar raglen gerddoriaeth pop S4C, Fideo 9.

Arddull[golygu | golygu cod]

Ceir dylanwad Avant-garde ar gerddoriaeth y grŵp, yn enwedig caneuon fel Tec 21[1] a Welsh Tourist Bored[2] sy'n cyfuno offer tarro metal, sŵn minimal a rap. Ceir hefyd defnydd o samplo cerddoriaeth, llais a sain mewn caneuon fel 'Rhych'.[3] Nodwyd bod dylanwad cerddorion megis Mark E. Smith arnynt.[4]

Disgograffi[golygu | golygu cod]

Albwm[golygu | golygu cod]

  • Traddodiad Ofnus - Welsh Tourist Bored album (CON! 00031, 1987)

Senglau ac EPs[golygu | golygu cod]

  • Traddodiad Ofnus - Hwyl/Rhiannon album ‎(7", Single, Ltd) Constrictor Single-Coll. 005, 1987
  • Traddodiad Ofnus - Datgan - 3 Trac album ‎(12", S/Sided), Constrictor CON! 00037, 1988
  • Traddodiad Ofnus - Rh. 2 album art ‎(12", Maxi) ANKST 007, 1989

Fideos[golygu | golygu cod]

Ceir amrywiaeth o ganeuon y grŵp ar y we, dyma rai ohonynt:

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]