Tortila

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tortilla)
Neidio i: llywio, chwilio
Peiriant yn coginio pentyrrau o dortilas yn Ninas Mecsico.

Bara crwn tenau a wneir o flawd corn neu weithiau blawd gwenith a fwyteir gyda llenwad sawrus yw tortila[1][2] neu tortïa[2] (Sbaeneg: tortilla). Prif fwyd yng nghoginiaeth Mecsico yw'r tortila ac yn hanesyddol yn brif ffynhonnell calsiwm y deiet Mecsicanaidd.. Coginir yn draddodiadol drwy ferwi'r india corn gyda chalch brwd (calsiwm ocsid) i feddalu'r ffrwyth a rhyddhau'r plisg. Cafodd y grawn ei falu ar felin law garreg o'r enw metate. Gwneid toes a gafodd ei wasgu'n denau gan law, ac yna ei bobi ar comal, sef gridyll pridd neu haearn. Heddiw, prynir y mwyafrif o dortilas mewn tortillerías: cymysgir a gwasgir y toes gan beiriannau, a'u coginio ar gludfelt dros dân.[3]

Ymddengys tortilas yn y mwyafrif o brydau Mecsicanaidd i gyd-fynd â seigiau saws a stiw. Fe'u defnyddir i lwyo bwydydd eraill i'r geg; weithiau caiff eu torri a'u ffrio'n greision. Plygir tortila o gwmpas cig, ffa, caws a saws sbeislyd i wneud taco. Pobir tortila gyda llenwad mewn saws i wneud enchiladas. Tostada yw'r enw ar dortila wedi ffrio gyda chig, ffa, caws, letys, a thomato ar ei ben. Gwneir burrito drwy amlapio ffa a chig neu gaws gyda thortila gwenith. Caiff toes tortila ei siapio'n amryw o ffurfiau i wneud sopes, chalupas, quesadillas, a panuchos, eto gyda llenwad sawrus.[3]

Mae tortilas hefyd yn boblogaidd iawn mewn gwledydd eraill America Ladin a'r Unol Daleithiau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur yr Academi, [tortilla].
  2. 2.0 2.1  tortila. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) tortilla. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mai 2016.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Paula E. Morton. Tortillas: A Cultural History (Gwasg Prifysgol New Mexico, 2014).