Torlannol

Oddi ar Wicipedia
Torlannol
Enghraifft o'r canlynoltirffurf Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gelwir nodwedd sydd i’w chanfod ar lannau’r afon neu sydd yn perthyn iddynt yn dorlannol. Er enghraifft, mae’n arferol i gyfeirio at yr ardaloedd o dir sydd wedi eu lleoli ar lannau’r afon yn barthau torlannol (riparian zones) a llystyfiant sydd yn tyfu ar lannau’r afon fel llystyfiant torlannol (riparian vegatation). Mae cyflwr y parth torlannol yn bwysig iawn i sefydlogrwydd glannau’r afon, i safon cynefinoedd afonol, ac felly’n ganolbwynt ar gyfer rheolaeth afonol yn y mannau lle mae newidiadau mewn defnydd tir wedi achosi newidiadau hydrolegol a dyddodol yn y tirlun ehangach. Yn yr achos yma, mae’r parth torlannol yn ymddwyn fel cyswllt rhwng y dalgylch afon a’r sianel.

Gall y parth torlannol effeithio ar safon dŵr, yn enwedig y llif trostir a’r dŵr daear sydd yn llifo dros a thrwy briddoedd y parth. Gall porfa a choedwigoedd echdynnu maetholynnau sydd â lefelau rhy uchel o gemegau fel Nitrogen, sydd efallai wedi deillio o orddefnyddio gwrtaith, a fyddai fel arall wedi llifo i mewn i’r afon. Gall parthau torlannol fod yn ardaloedd pwysig iawn o ran cynefinoedd yn ogystal, trwy fod yn llwybrau ar gyfer symudiad anifeiliaid, ac yn amgylchedd o brydferthwch a defnydd hamdden ac adloniant.

Gall llystyfiant y parth torlannol hefyd reoli safon y cynefinoedd o fewn y sianel. Gall y parth torlannol ryddhau maetholynnau organig gwerthfawr i mewn i’r sianel a fydd yn medru cynnig maeth i’r ecosystem afonol. Yn ogystal, gall coed a llwyni gynnig cysgod i bysgod ac anifeiliaid wrth ochr y glannau, a sicrhau bod ardaloedd o dymheredd isel ar gael yn ystod yr haf. Gall llystyfiant y dorlan hefyd sefydlogi glannau’r afon mewn rhai achosion, a chyfrannu darnau mawr o ddeunydd organig (e.e. canghennau mawrion) i mewn i’r afon. Gall rhain wedyn rwystro llif ar adegau, gan gynnig amrywiaeth bellach o ran cynefinoedd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Dunkerley, D.L. (2000) Riparian, yn Thomas, D.G. a Goudie, A. (Gol) The Dictionary of Physical Geography, Blackwell, Rhydychen, t. 413.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Torlannol ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.