Tir a Golau (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Tir a Golau
Clawr Tir a Golau
Albwm stiwdio gan Plu
Rhyddhawyd Tachwedd 2015
Label Sbrigyn Ymborth

Albwm gan y grŵp Plu yw Tir a Golau. Rhyddhawyd yr albwm yn Nhachwedd 2015 ar y label Sbrigyn Ymborth.

Ail albwm Plu (i oedolion) ac un sy’n dangos aeddfedrwydd newydd gan y triawd, a newid cyfeiriad cynnil hefyd. Er yr arbrofi gyda sŵn mwy amgen, yr un ydy’r sail gwerinol i’r caneuon, ynghyd â’r asio lleisiol cyfarwydd.

Dewiswyd Tir a Golau yn un o ddeg albwm gorau 2015 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth[golygu | golygu cod]

Albwm sy’n llwyddo i amsugno’r gynulleidfa i fyd breuddwydiol trwy’r cynhesrwydd a’r purdeb sy’n perthyn i gynnyrch Plu

—Ifan Prys, Y Selar

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]