Tir Halen

Oddi ar Wicipedia

Ardal yn Nyffryn Camwy yn nhalaith Chubut yn yr Ariannin yw Tir Halen neu Tyr Halen. Ystyrir Tir Halen fel ffin orllewinol rhan isaf Dyffryn Camwy, ac yma yr oedd ffin orllewinol y Wladfa yn y cyfnod cynnar.

Ceir argae yma sy'n cyflenwi dŵr i'r ffosydd sy'n dyfrhau tiroedd amaethyddol rhan isaf y dyffryn.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Ariannin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.