Tinsel

Oddi ar Wicipedia
Tinsel ar goeden Nadolig

Math o ddeunydd addurniadol, wedi'i wneud o stribedi tenau o ddeunydd pefriog a'i gysylltu i edefyn, yw tinsel (neu eurwe). Pan y mae mewn stirbedi hir sydd heb eu cysylltu i'r edefyn, mae'n cael ei alw'n "lametta". Yn wreiddiol roedd yn fath o goronbleth fetelaidd oedd yn cael ei ddefnyddio fel addurn Nadolig. Cafodd tinsel modern ei ddyfeisio yn Nürnberg, yr Almaen, yn 1610, ac roedd wedi'i wneud o arian siwrwd yn wreiddiol.

Mae tinsel modern wedi'i wneud o blastig ac yn cael ei ddefnyddio yn arbennig i addurno coed Nadolig. Gall gael ei hongian o'r nenfwd neu osod ar gelfi a nodweddion yn y cartref neu ei glymu o amgylch cerfluniau, polion lamp, ac yn y blaen, yn yr awyr agored.

Daw'r gair 'tinsel' o'r gair estincele yn yr Hen Ffrangeg ac mae'n golygu 'pefriad'.