The Vampire Lovers
Gwedd
Clawr y DVD | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Roy Ward Baker |
Cynhyrchydd | Michael Style Harry Fine |
Ysgrifennwr | Sheridan Le Fanu (stori Carmilla) |
Serennu | Ingrid Pitt George Cole Kate O'Mara Peter Cushing Madeline Smith |
Cerddoriaeth | Harry Robertson |
Sinematograffeg | Moray Grant |
Golygydd | James Needs |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | American International Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 4 Hydref, 1970 |
Amser rhedeg | 91 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Olynydd | Lust for a Vampire |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm arswyd gan Ffilmiau Hammer a ryddhawyd yn 1971 yw The Vampire Lovers. Y cyfarwyddwr oedd Roy Ward Barker. Mae'n serennu Ingrid Pitt, Madeline Smith, Peter Cushing ac eraill. Seilir y ffilm yn fras ar y nofel Carmilla gan Joseph Sheridan Le Fanu. Mae The Vampire Lovers yn cael ei hystyried gan rai yn un o'r ffilmiau Hammer gorau o'r 1970au. Ffilm arswyd liwgar ydyw, gyda'r setiau llawn awyrgylch sy'n nodweddiadol o gynnyrch stiwdios Hammer ar eu gorau. Ceir elfen gref o erotiaeth yn y ffilm, gyda chymeriad Ingrid Pitt yn bennaethes ar griw o vampiriaid lesbiaidd. Madeleine Smith yw eu prau diniwed.