The Karate Kid
Gwedd
![]() Poster y Ffilm 1984 | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | John G. Avildsen |
| Cynhyrchydd | Jerry Weintraub R. J. Louis (Uwch Gynhyrchydd) Bud S. Smith (Cynhyrchydd Cynorthwyol) |
| Ysgrifennwr | Robert Mark Kamen |
| Serennu | Ralph Macchio Noriyuki "Pat" Morita Elisabeth Shue Martin Kove William Zabka Randee Heller |
| Cerddoriaeth | Bill Conti |
| Sinematograffeg | James Crabe |
| Golygydd | John G. Avildsen Walt Mulconery Bud S. Smith |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Columbia Pictures |
| Dyddiad rhyddhau | 22 Mehefin, 1984 |
| Amser rhedeg | 127 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Ffilm am karate a ryddhawyd yn 1984 yw The Karate Kid. Cyfarwyddwr y ffilm oedd John G. Avildsen ac ymhlith yr actorion roedd Ralph Macchio, Pat Morita ac Elisabeth Shue. Mae'n ffilm sy'n ymdrin â karate lle mae'r prif gymeriad yn gorfod goresgyn nifer o anawsterau cyn iddo ddod yn bencampwr. I raddau helaeth, dilyna'r stori batrwm un o ffilmiau blaenorol a hynod lwyddiannus Avildsen, sef Rocky ym 1976, lle roedd paffio yn brif destun y ffilm. Bu The Karate Kid yn llwyddiant masnachol mawr pan gafodd ei rhyddhau. Derbyniodd adolygiadau canmoladwy hefyd, gan arwain at Pat Morita yn cael ei enwebu am Oscar am Actor Cefnogol Gorau.
