Tennis Girl
Gwedd
Poster poblogaidd yw Tennis Girl (Saesneg am "y Ferch Denis"). Mae'n dangos menyw ifanc o'r tu ôl yn cerdded tuag at rwyd cwrt tenis gyda raced denis yn ei llaw dde a'i llaw chwith yn estyn i godi ei sgert denis, gan ddangos nad yw'n gwisgo unrhyw ddillad isaf.
Tynodd Martin Elliott y ffotograff ym Medi 1976 ac mae'r llun yn dangos Fiona Butler, ei gariad 18 mlwydd oed ar y pryd. Tynwyd y llun ym Mhrifysgol Birmingham, Edgbaston, Birmingham gan ddefnyddio dillad, raced, a pheli a fenthycwyd.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Birmingham Post – Tennis poster girl and her classic pose Archifwyd 2010-11-15 yn y Peiriant Wayback