Neidio i'r cynnwys

Te Reo (sianel deledu)

Oddi ar Wicipedia
Te Reo
Enghraifft o'r canlynolgorsaf deledu Edit this on Wikidata
PerchennogLlywodraeth Seland Newydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.maoriplus.co.nz/movie/live-te-reo Edit this on Wikidata

Mae Te Reo (Cymraeg: "yr iaith") yn orsaf deledu yn Aotearoa (Seland Newydd) sy'n darlledu rhaglenni yn yr iaith Māori yn unig (a elwir yn "te reo Māori" yn yr iaith honno) heb unrhyw hysbysebu nac isdeitlau. Mae hefyd yn darlledu rhaglenni gan ac yn arbennig am wahanol llwythau cynhenid Māori y wlad ac yn cynnig ffocws arbennig ar raglenni newydd ar gyfer y gynulleidfa rugl. Mae'n chwaer sianel i Whakaata Māori, sianel arweiniol yr iaith. Mae Whakaata Māori yn cynnwys isdeitlau ar-sgrin ar ei rhaglenni.

Lansiwyd y sianel newydd ar 28 Mawrth 2008. Dywed prif weithredwr Māori Television (fel gelwid Whakaata Māori ar y pryd), Jim Mather, fod lansiad Te Reo yn garreg filltir arall mewn mentrau adfywio iaith. “Mae Te Reo yn adeiladu ar y gwerthoedd a sefydlwyd gyda genedigaeth sianel deledu gynhenid ​​Seland Newydd bedair blynedd yn ôl. Mae hefyd yn hybu ein cenhadaeth i chwarae rhan fawr wrth adfywio’r iaith a’r diwylliant sy’n enedigaeth-fraint i bob Māori a threftadaeth pob Seland Newydd.”[1]

I ddechrau, darlledodd y sianel am dair awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, yn ystod yr oriau brig o 8:00pm i 11:00pm o ddydd Gwener 28 Mawrth 2008 ar Freeview Satellite. Cafodd ei ychwanegu'n ddiweddarach ar gyfer tanysgrifwyr Sky/Vodafone.[2]

O fis Chwefror 2023 ymlaen, mae'r sianel yn darlledu, ar gyfartaledd, rhwng 11:30am a 11:00pm yn ystod yr wythnos a 4:30pm i 11:00pm ar benwythnosau.

Cyfnewidiodd sianel Te Reo safleoedd Freeview â Prime, ar 1 Mawrth 2023, gyda Te Reo yn symud i sianel 10, safle blaenorol Prime, a Prime yn symud i sianel 15, sef safle blaenorol Te Reo.[3]

Rhaglennu

[golygu | golygu cod]
  • Dysgu'r iaith
    • Ako
    • Opaki
  • Newyddion a materion cyfoes
    • Te Ao – Newyddion Māori
    • Paepae
  • Adloniant
    • Te Kāuta
  • Diwylliant
    • Iwi Anthems
    • Ngā Pari Kārangaranga
    • Waka Huia
  • Rhaglenni plant
    • Pūkoro
    • Mīharo
    • Pūkana

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allannol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "100 Percent Reo Māori Channel on Air". Gwefan Te Puni Kōkiri (Gweinyddiaeth Datblygiad Maori). 2008.
  2. Māori Television (9 Mawrth 2008). "Māori Television launches second channel". Māori Television. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2008.
  3. "Channel changes 1 March 2023". Freeview (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-17. Cyrchwyd 2023-02-18.
Eginyn erthygl sydd uchod am Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.