Tŷ Siôn a Siân

Oddi ar Wicipedia
Am y rhaglen deledu gweler Siôn a Siân
Tŷ Siôn a Siân
Enghraifft o'r canlynolofferyn meteorolegol Edit this on Wikidata
Mathhygromedr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyfais celf werin i ddynodi'r tywydd ar ffurf bwthyn neu gaban yw Tŷ Siôn a Siân. Bydd gan y bwthyn dau ddrws. Bydd merch neu fenyw (Siân) yn dod allan o'r drws ar eich chwith i ddarogan tywydd braf a bachgen neu ddyn (Siôn) yn dod allan o'r drws ar eich de, i ddarogan tywydd gwlyb. Bydd Sion yn aml yn cario ambarél.

Mecanwaith[golygu | golygu cod]

Hygromedr syml yw'r Tŷ Sion a Siân. Offeryn sy'n mesur lleithder aer neu ryw nwy arall yw hygromedr: hynny yw, faint o anwedd dŵr sydd ynddo.[1]

Mae'r ffigurau Sion a Siân yn sefyll ar far cydbwysedd, sy'n cael ei grogi gan linyn. Mae'r llinyn yn ymestyn neu'n crebachu yn seiliedig ar y lleithder yn yr aer o'i amgylch. Mae'r llinyn yn ymestyn pan fydd yr aer yn wlyb ac yn crebachu pan fydd yr aer yn sych. Mae'r weithred hon yn troi'r naill ffigur neu'r llall allan o'r tŷ yn dibynnu ar y lleithder. Yn draddodiadol byddai'r llinyn yn cael ei wneud o berfedd cath neu wallt ceffyl. Mae rhai amrywiadau yn gweithredu fel baromedr: mae gwasgedd isel yn dynodi tywydd gwael (glawog), pwysedd uchel i ddynodi tywydd da (heulog). Mae llawer o dai Sion a Siân hefyd â thermomedr bach ar y rhan rhwng y ddau ddrws i guddio'r llinyn sy'n gweithio'r ddyfais

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae gwreiddiau'r Tŷ Sion a Siân yn cael eu cysylltu yn bennaf gyda deheudir yr Almaen ac Awstria. Ceir cyfeiriad ysgrifenedig cynnar amdanynt yn llyfr Jacob Leupold Theatrum Aerostaticum ym 1726. Mae'r awdur yn disgrifio tŷ o'r fath a gynhyrchwyd ganddo "blynyddoedd maith yn ôl". [2]. Erbyn 1795 hepgorodd Karl Friedrich August Hochheimer ddisgrifiad manylach o'r tai yn y cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud hygromedr, gan "y gallech eu gweld drosoch eich hun ym mhobman".[3] Mae'r tai hefyd yn cael eu cysylltu â'r crefftwyr yn y Swistir oedd yn gwneud clociau cwcw ar gyfer ymwelwyr i'r wlad.

Y cyfeiriadau ysgrifenedig cyntaf sydd gan Eiriadur y Brifysgol at y term Cymraeg "Tŷ Sion a Siân" yw A Glossary of the Demetian Dialect gan W. Meredith Morris (1910) a The Welsh vocabulary of the Bangor district gan Osbert Fynes-Clinton (1913).[4] Gan fod y naill yn trafod tafodiaith y de a'r llall tafodiaith y gogledd, gellir bod yn sicr bod y term yn gyfarwydd trwy Gymru benbaladr erbyn dechrau'r 20G.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. EFeerit Hanes y Hygromedr gan Mary Bellis
  2. [image=phys6307645&set[mets]=https%3A//digital.ub.uni-duesseldorf.de%2Foai%2F%3Fverb%3DGetRecord%26metadataPrefix%3Dmets%26identifier%3D5277736 Jacob Leupold: Theatrum Aerostaticum, Oder: Schau-Platz Der Machinen Zu Abwiegung und Beobachtung aller vornehmsten Eigenschafften der Lufft. (= Theatrum Machinarum, Band 5,3). Leipzig 1726]
  3. Karl Friedrich August Hochheimer: Allgemeines ökonomisch-chemisches-technologisches Haus- und Kunstbuch oder Sammlung ausgesuchter Vorschriften zum Gebrauch für Haus- und Landwirthe, Proffessionisten, Künstler und Kunstliebhaber. Leipzig 1795, S. 276.
  4. Geiriadur Prifysgol Cymru Sion