Tîm pêl-droed cenedlaethol Tiwnisia
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | tîm pêl-droed cenedlaethol ![]() |
---|---|
Math | tîm pêl-droed cenedlaethol ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1957 ![]() |
Perchennog | Tunisian Football Federation ![]() |
Gwladwriaeth | Tiwnisia ![]() |
Gwefan | http://www.ftf.org.tn/, https://www.ftf.org.tn/ar2/ ![]() |
![]() |
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Tiwnisia (Arabeg: منتخب تونس لكرة القدم) yn cynrychioli Tiwnisia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Tiwnisia (Arabeg: الجامعة التونسية لكرة القدم, Ffrengig Fédération Tunisienne de Football) (FTF), corff llywodraethol y gamp yn Tiwnisia. Mae'r FTF yn aelod o gonffederasiwn pêl-droed Affrica, (CAF).
Mae Eryrod Carthago (Arabeg: نسور قرطاج, Ffrengig: Les Aigles de Carthage) wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar bump achlysur yn 1978, 1998, 2002, 2006 a 2018 ac wedi ennill Pencampwriaeth Pêl-droed Affrica ar un achlysur yn 2004.