Tîm pêl-droed cenedlaethol Gogledd Macedonia

Oddi ar Wicipedia
Tîm pêl-droed cenedlaethol Gogledd Macedonia
Enghraifft o'r canlynoltîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
Mathtîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
PerchennogCymdeithas Bêl-droed Gogledd Macedonia Edit this on Wikidata
GwladwriaethGogledd Macedonia Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ffm.mk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae tîm pêl-droed cenedlaethol Gogledd Macedonia (Macedoneg: Fudbalska reprezentacija na Makedonija; Yr Wyddor Gyrilig: Фудбалска репрезентација на Македонија) yn cynrychioli Gogledd Macedonia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Macedonia (Macedoneg: Fudbalska Federacija na Makedonija; Yr Wyddor Gyrilig: Фудбалска Федерација на Македонија) (FFM) , corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FFM yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Hyd nes 1992 roedd chwaraewr o Weriniaeth Macedonia yn cynrychioli Iwgoslafia ond wedi i'r wlad sicrhau annibyniaeth, daeth Gweriniaeth Macedonia yn aelod o FIFA ac UEFA ym 1994[1].

Nid yw Gweriniaeth Macedonia erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaethau Pêl-droed Ewrop.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Uefa: Macedonia history". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-08. Cyrchwyd 2014-12-23. Unknown parameter |published= ignored (help)
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.