Tân Tŵr Grenfell

Oddi ar Wicipedia
Tân Tŵr Grenfell
Enghraifft o'r canlynolskyscraper fire, trychineb Edit this on Wikidata
Dyddiad14 Mehefin 2017 Edit this on Wikidata
Lladdwyd72 Edit this on Wikidata
LleoliadTŵr Grenfell Edit this on Wikidata
Map
Gwefanhttps://www.grenfelltowerinquiry.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tŵr Grenfell

Llosgwyd bloc o fflatiau Tŵr Grenfell yn Kensington, Llundain, ar 14 Mehefin 2017. Roedd gan y bloc 24-llawr, roedd yn 220-troedfedd (67 m) o uchder, a'i breswylwyr oedd tenantiaid a leolwyd yno gan y cyngor lleol: Cyngor Kensington. Roedd cyfanswm o 120 o fflatiau yn y bloc: pob un gydag un neu ddwy lofft.[1] Yn ôl Université catholique de Louvain, dyma'r tân gwaethaf yng ngwledydd Prydain ers 1900. Erbyn 20 Mehefin daethpwyd o hyd i 79 o gyrff ac ni wyddys sut y cynheuwyd y tân, ond ni chredir ei fod yn fwriadol.

Hysbyswyd y gwasanaethau argyfwng am 00:54 (BRST) ar 14 Mehefin 2017 ac roedd y tân yn dal i losgi 24 wedyn.[2] O fewn yr awr neu ddwy cyntaf gwelwyd 45 injan dân a channoedd o staff diffodd tân wrthi'n ceisio'i ddiffodd. Achubwyd 65 o bobl gan y staff ymladd tân.[3]

Oherwydd y modd y lledodd y tân mor sydyn, rhoddwyd y bai ar y cladin a roddwyd ar du allan y waliau er mwyn ei harddu. Yn ôl rhai, roedd y cladin hwn yn llosgadwy ac wedi ei wahardd drwy Ewrop. Roedd Sadiq Khan, Maer Llundain, yn llawdrwm ar fethiant y canllawiau tân, y cyfarwyddyd gan y gwasanaethau tân y dylai'r preswylwyr aros yn eu fflatiau ac am y modd y methodd Cyngor Kensington ddelio gyda'r argyfwng. Beirniadwyd y Prif Weinidog Theresa May yn hallt am beidio a chyfarfod teuluoedd y rhai a laddwyd. Cyhoeddodd y byddai'n rhyddhau cronfa o £5 miliwn ar gyfer y rhai a oedd yn dioddef.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Everyone Was Helping". The Telegraph. Kolkata. 15 Mehefin 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mehefin 2017. Cyrchwyd 17 Mehefin 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Bentham, Martin (15 Mehefin 2017). "London fire: Grenfell Tower death toll reaches 17 as fire chief says 'no more survivors'". Evening Standard. London. Cyrchwyd 17 Mehefin 2017.
  3. Metropolitan Police Commissioner at Press Conference 17 Mehefin 2017