System bilynnol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o System bilynol)
Mae'r croen yn caniatau i'r corff chwysu, ac mae iddo sawl swyddogaeth arall, hanfodol. Ond y croen yn anad dim arall, sy'n rhoi iddo ei edrychiad unigryw.

Mewn anatomeg ac anatomeg ddynol, mae'r system bilynnol[1] ('Integumentary system') yn cynnwys y croen, y gwallt a'r ewinedd. Ei waith, yn bennaf, yw amddiffyn y corff; gellir ei ystyried felly fel rhan o'r system imiwnedd.

Mae'n cadw dŵr i mewn ac allan o'r corff, rheoli tymheredd y corff, caniatau i'r corff chwysu a galluogi'r corff i deimlo gwres a phoen drwy'r system nerfol. Dyma organ mwyaf y corff, gan ei fod yn ei amgylchynnu.

Clefydau[golygu | golygu cod]

Clefydau a damweiniau posibl i'r system bilynnol ddynol:

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Geiriadur yr Academi; adalwyd 9 Awst 2017.