System Transit Maes Awyr O'Hare, Chicago

Oddi ar Wicipedia
System Transit Maes Awyr O'Hare, Chicago
Enghraifft o'r canlynoltrên gwennol awtomatig Edit this on Wikidata
Rhan otransportation in Chicago Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Hyd4.8 cilometr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.flychicago.com/ohare/ServicesAmenities/services/Pages/ATS.aspx Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae System Transit Maes Awyr O'Hare, Chicago (Saesneg: Airport Transit System(ATS)) yn system drafnidiaeth awtomatig ym Maes Awyr O'Hare, Chicago, UDA. Mae’r gorsafoedd i gyd yn gaeëdig gyda drysau ar bob platfform sydd yn agor yn gyfamserol â drysau’r trenau i sicrhau diogelwch teithwyr a rheolaeth tymheredd ar y platfform. Defnyddir trenau 2 neu 3 cerbyd yn ôl angen[1]. Mae pob cerbyd yn dal 57 o deithwyr. Mae gan y rhwydwaith 2 drac, ac mae 5 gorsaf, Terminal 1,2,3,5 a Pharcio Pell.


Moderneiddio[golygu | golygu cod]

Moderneiddir y system yn ystod 2020 a defnyddir bysiau yn lle’r STA ar hyn o bryd.[2][3] Erbyn 29 Medi, 2020, doedd ATS ddim wedi ail-agor.[4]


Cerbydau[golygu | golygu cod]

Defnyddir 15 cerbyd awtomatig Matra o Ffrainc gyda teiars rwber. Disodlir y cerbydau Matra gan 36 cerbyd Bombardier fel rhan o’r broses o foderneiddio.


Estyniad[golygu | golygu cod]

Estynnir y system ymlaen o orsaf Parcio Pell i ganolfan aml-foddol, lle mae’r cwmnïau llogi ceir a’r orsaf Metra.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]