Swissair 111

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Damwain hedfan fawr a ddigwyddodd ar 2 Medi 1998 oedd hediad Swissair 111. Chwalodd yng Nghefnfor yr Iwerydd tua 5 milltir (8 cilomedr) oddi ar arfordir Nova Scotia yng Nghanada. Bu farw’r holl 229 o deithwyr a chriw a oedd ar fwrdd. [1]

Yr awyren dan sylw oedd MD-11 a weithgynhyrchwyd gan McDonnell Douglas. Gweithredwyd y gwasanaeth gan Swissair, cwmni hedfan cenedlaethol y Swistir. Roedd hi ar ei ffordd o Faes Awyr John F. Kennedy yn Ninas Efrog Newydd, Unol Daleithiau i Faes Awyr Genefa-Cointrin yn y Swistir. Llysenw y gwasanaeth roedd "Gwennol y Cenhedloedd Unedig", gan ei fod yn boblogaidd iawn gyda swyddogion y CU. [2] Roedd y gwasanaeth hefyd yn boblogaidd gyda gweithredwyr busnes, gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ar fwrdd yr hediad dan sylw roedd llawer o gargo gwerthfawr, gan gynnwys diemwntau a phaentiad gan Picasso. [3]

Cwrs y digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

20:18 (amser lleol) Mae’r hediad yn ymadael Maes Awyr John F. Kennedy, Efrog Newydd

20:50 Mae'r capten yn adrodd ei fod wedi cyrraedd y lefel morio o 33,000 traed.

21:10 Mae’r capten yn clywed oglau rhywbeth rhyfedd, ac mae’n ceisio dod o hyd i’w achos. Mae’n dod i’r casgliad mai system aerdymheru ydy’r ffynhonnell.

21:14 Mae’r talwrn yn llawn mwg, ac mae’r peilotiaid yn gwneud galwad “Pan-Pan” (arwydd gyfyngder llai difrifol na Mayday) ac maent yn datgan eu bod nhw am ddargyfeirio i lanio ym Maes Awyr Boston-Logan, a leolir 350 milltir (560 km) i ffwrdd.

21:15 Mae’r rheolwr traffig awyr yn awgrymu mynd i Faes Awyr Halifax yn Nova Scotia yn lle Boston, dim ond yn 65 milltir i’r gogledd (105 km)

21:17 Mae’r peilotiaid yn defnyddio’r brêc awyr er mwyn cynyddu cyfradd y disgyniad.

21:20 Mae’r peilotiaid yn penderfynu taflu tanwydd er mwyn lleihau pwysau’r awyren.

21:22 Mae’r awyren yn troi tua’r de ddwyrain er mwyn taflu’r tanwydd dros y môr, tua 30 milltir (48 km) i’r de o’r Maes Awyr Halifax.

21:24:09 Clywir larwm yn y talwrn oherwydd methiant yr awtopeilot.

21:24:42 Gwneir y galwad Mayday cyntaf gan y peilotiaid.

21:24:46 Mae’r capten yn adrodd bod system drydanol yr awyren wedi methu.

21:24:53 Mae’r criw yn dechrau taflau'r tanwydd, gyda’r bwriad glanio yn syth yn ôl hynny.

21:25:12 Mae’r blwch du yn darfod recordio. Mae'r talwrn mewn fflamau erbyn hyn.

21:25:16 Mae’r rheolwr traffig awyr yn cadarnhau'r caniatâd i wagu’r tanciau tanwydd, ond dydy’r criw ddim yn ateb.

21:25:40 Mae’r rheolwr traffig awyr yn ailadrodd ei drosglwyddiad, eilwaith heb unrhyw ymateb.

21:31:18 Mae’r awyren yn chwalu i mewn i’r môr, gyda thrigolion lleol yn clywed sŵn o ffrwydrad cryf o gyfeiriad y môr. Cadarnheir hwn gan adroddiad seismoleg o'r ardal.

Ymchwiliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd yr ymchwiliad gan Fwrdd Diogelwch Cludiant Canada (TSB), a pharodd am 5 mlynyddoedd, gyda chost o US$39 miliwn i Lywodraeth Canada. [4] Cynorthwywyd y Canadiaid gan eu cymheiriaid o America, gan fod yr awyren yn cael ei gynhyrchu yn yr Unol Daleithiau.

Roedd rhan fwyaf y drylliad ar lawr y môr yn St. Margaret’s Bay, tua 55 medr (180 troedfedd) o ddwfn. Roedd rhai rhannau yn arnofio ar yr wyneb. Roedd grym y chwalfa mor ddifrifol, y gallai ddim ond un teithiwr cael ei adnabod yn weledol, adnabuwyd gweddill y teithwyr drwy gyfrwng dadansoddiad DNA, olion bys a chofnodion deintyddol.

Daethpwyd o hyd i’r blwch du gan y llong danfor HMCS Okanagan o’r Lluoedd Canadaidd ar 11 Medi 1998. Ar yr 2 Hydref, cychwynnodd y TSB weithrediad mawr i symud yr holl ddrylliad o’r môr cyn y gaeaf. Ar 21 Hydref, amcangyfrifwyd bod 27% y gweddillion wedi’u tynnu o’r dŵr.

Daethpwyd â thua 2 filiwn o ddarnau’r drylliad i awyrendy ar yr arfordir ar gyfer trefniad ac ymchwiliad gan 350 o weithwyr o amryw sefydliadau a chwmïoedd, gan gynnwys Boeing (perchennog McDonnell Douglas), Pratt & Whittney, yr NTSB, y Weinyddiaeth Hedfan Ffederal Americanaidd, a’r AAIB Swisaidd.

Daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad yr achoswyd y ddamwain gan y system adloniant a oedd yn gorgynhesu, a arweiniodd i gylched fer, ac o’r diwedd, tân yn nenfwd yr awyren. Dinistriodd y tân y systemau llywio awyr, ac yn y pen draw, rhan flaen yr awyren, gan gynnwys y talwrn. Fe'i ddarganfuwydd yr oedd y capten, Urs Zimmerman, allan o'i sedd yn ceisio atal y fflamau ychydig cyn y gwrthdrawiad gyda'r môr. [5]

Darganfuwyd, yn groes i gred yr awdurdodau hedfan, yr oedd y deunydd a ddefnyddiwyd ar gyfer inswleiddio'r nenfwd (MPET - Mylar wedi'i feteleiddio) yn fflamadwy iawn, a oedd yn gyfrannwr mawr i'r tân. Dwy flynedd ar ôl y ddamwain, datganodd yr FAA roedd gan cwmnïoedd hedfan pum mlynedd i amnewid yr ynysiad MPET oherwydd pryderon diogelwch[6].

Rhagor o wybodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]