Swdocw

Oddi ar Wicipedia
Swdocw
Delwedd:Sudoku Puzzle by L2G-20050714 standardized layout.svg, Samurai-sudoku.png
Enghraifft o'r canlynolpos rhesymegol, chwaraeon y meddwl, pos Edit this on Wikidata
Mathpos, chwaraeon y meddwl Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1979 Edit this on Wikidata
Genregêm fideo posau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pos swdocw
Pos wedi ei ddatrys gyda rhifau'r ateb yn goch

Pos sy'n seiliedig ar resymeg yw Swdocw (neu weithiau Sŵdocw) (Siapaneg: sūdoku). Y bwriad yw i lenwi grid, 9x9 sgwâr, fel bod pob colofn a phob rhes a phob un o'r naw bocs 3×3 (gelwir nhw hefyd yn flociau neu'n ardaloedd) yn cynnwys y rhifau o 1 i 9 ddim ond un waith ym mhob un. Mae'r person sy'n gosod y pos yn rhoi grid sydd â ond ychydig o'r rhifau wedi eu cwblhau.

Mae posau swdocw sydd wedi eu cwblhau fel arfer yn fath o Sgwâr Lladin gyda rheolau ychwanegol ynglŷn â chynnwys yr ardaloedd o'i fewn. Yn aml, dywedir yn anghywir i'r bos darddu o Leonhard Euler, yn seiliedig ar ei waith ef gyda sgwariau Lladin.[1]

Dyfeiswyd y bos gyfoes gan bensaer Americanaidd, Howard Garns, ym 1979 a gyhoeddwyd gan Dell Magazines dan yr enw "Number Place".[2] Daeth yn boblogaidd yn Siapan ym 1986, wedi iddo gael ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Nikoli dan yr enw Sudoku, gan olygu rhif unigol.[3] Daeth yn boblogaidd yn ryngwladol yn 2005.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Leonhard Euler. On magic squares.
  2.  Sudoku Variations.
  3. Brian Hayes (2006). Unwed Numbers, 1, American Scientist, tud. t. 12-15

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]