Suzy Lishman

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Patholegydd yw Dr Suzy Lishman a Llywydd Coleg Brenhinol y Patholegwyr.[1]

Yn ferch ifanc, rhoddodd ei bryd ar fod yn falerina.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Addysgwyd Suzy Lishman yng Ngholeg Girton, Caergrawn ac wedi iddi raddio mewn meddygaeth arbenigodd mewn histopatholeg. Bu'n swyddog gyda Coleg Brenhinol y Patholegwyr ers 2005 a chododd broffil ei phwnc gryn dipyn drwy gyflwyno ymgyrchoedd cyhoeddus fel yr 'Wythnos Patholeg Genedlaethol'. Elusen yw'r coleg, gyda dros 10,000 o aelodau: y rhan fwyaf yn feddygon a gwyddonwyr sy'n gweithio mewn ysbytai a phrifysgolion ledled gwledydd Prydain.[3] Cydweithiodd gyda'r Amgueddfa Wyddonol yn Llundain, y Gymdeithas Frenhinol a Gŵyl Wyddonol Cheltenham. Yn 2014 fe'i phenodwyd yn Llywydd Coleg Brenhinol y Patholegwyr - dim ond yr ail ferch erioed i ymgymryd â'r swydd.[1][4]

Ymarfer clinigol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysbyty Dinas Peterborough

Mae Lishman yn Gonsyltant yn Ysbyty Dinas Peterboroughm lle mae'n bennaeth yr adran batholeg mewn sgrinio cansar y coluddion.[angen ffynhonnell]

Llwyddiannau[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwebwyd Lishman yn un o 50 o ferched dylanwadol o fewn gofal iechyd, a disgrifiwyd hi yn yr Health Service Journal fel 'wyneb cyhoeddus patholeg'.[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]