Stromeferry

Oddi ar Wicipedia
Stromeferry
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau57.352°N 5.551°W Edit this on Wikidata
Cod OSNG865345 Edit this on Wikidata
Map

Pentref yng Nghyngor yr Ucheldir, yr Alban, yw Stromeferry[1] (Gaeleg yr Alban: Port an t-Sròim).[2] Saif ar lannau Loch Carron.

Gwasanaethir y pentref gan reilffordd ac mae ffordd yr A890 yn mynd yn agos iddo i'r de. Fe'i lleolir ar ran culaf y foryd felly bu gwasanaethau fferi yno am flynyddoedd lawer. Pan ddatblygwyd yr A890, nid oedd angen y gwasanaethau fferi mwyach, felly daethant i ben yn 1970. Ond yn 2012 bu'n rhaid cau'r ffordd, a rhoddwyd y fferi yn ôl i ddefnydd am ychydig.

Roedd Sabathyddiaeth yn gryf yn yr Ucheldiroedd yn ystod y 19g, felly pan oedd y cwmni rheilffordd yn gweithredu trenau ar y Sul roedd cryn wrthwynebiad ymhlith y boblogaeth leol. Fe aeth pethau i'r pen mewn terfysg yn Stromferry ar 3 Mehefin 1883. Cymerodd dros 200 o bysgotwyr feddiant o derfynfa'r rheilffordd er mwyn atal dadlwytho pysgod ar y Sul. Cafodd deg dyn eu carcharu o ganlyniad. [3] [4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 3 Tachwedd 2022
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-11-03 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 3 Tachwedd 2022
  3. |Allan W. MacColl, Land, Faith and the Crofting Community:Christianity and Social Community in the Highlands of Scotland, 1843-1893 (Edinburgh University Press, 2006)
  4. "Sunday Traffic (Scotland) The Stome Ferry Riots" Archifwyd 2022-11-03 yn y Peiriant Wayback., Hansard, 3 Awst 1883; adalwyd 3 Tachwedd 2022