Snapchat
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
online service provider, Gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, social media, instant messaging client ![]() |
Crëwr |
Snap Inc. ![]() |
Dyddiad cyhoeddi |
Medi 2011 ![]() |
Dechrau/Sefydlu |
Medi 2011 ![]() |
Gwladwriaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Gwefan |
https://www.snapchat.com ![]() |
![]() |
Meddalwedd ac ap amlgyfrwng yw Snapchat ar gyfer teclunau symudol fel y tabled neu'r ffôn, meddalwedd a grëwyd gan Evan Spiegel, Bobby Murphy a Reggie Brown, cyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Stanford. Cafodd y feddalwedd ei datblygwyd gan Snap Inc., a adnabyddid yn wreiddiol fel Snapchat Inc. Pwrpas Snapchat yw danfon lluniau a negeseuon testun a sain i 3ydd person, am gyfnod byr yn unig.
Y ddau fyfyriwr Brown a Spiegel a greodd y prototeip cyntaf, a alwyd yn "Picaboo", fel prosiect mewn dosbarth yn Stanford. Y syniad oedd creu ap ar gyfer hunlun, rhannu'r llun ac yna'i ddileu ar ôl cyfnod. Mae natur dros dro'r lluniau'n annog gwamalrwydd ac yn pwysleisio mwy ar y llif naturiol o ryngweithio yn hytrach na chadw ac archifo. Yn Ebrill 2011, cyflwynodd Spiegel y prototeip terfynol er mwyn i'r dosbarth archwilio potensial gwaith fel y cynnyrch masnachol.
Daeth Murphy i mewn i'r prosiect er mwyn ysgrifennu'r cod terfynol a chyhoeddwyd y fersiwn gyntaf o Picaboo fel iOS yng Ngorffennaf 2011. Ail-lansiwyd yr ap ym Medi o dan yr enw "Snapchat".