Skype
| Datblygwr | Microsoft Skype Division |
|---|---|
| Rhyddhad cychwynnol | Awst 2003 |
| Iaith raglennu | Embarcadero Delphi, Objective-C (iOS, Mac OS X), C++ gyda Qt (Linux) |
| system weithredu | iOS, Windows XP, Windows Vista, Windows 7, Windows 8, Mac OS X, Windows Phone, Blackberry OS, HP WebOS, Symbian, Android a Linux |
| Cyfieithu parod | Nifer o ieithoedd |
| Math | Voice over IP, negeseua sydyn, fideo gynhadledd |
| Trwydded | Meddalwedd, gydag ychwanegiadau tâl |
| Gwefan | skype.com |
Meddalwedd cyfathrebu sy'n eiddo i Microsoft yw Skype (neu weithiau Sgeip). Mae'n galluogi defnyddwyr i gyfathrebu â'i gilydd drwy feicroffon, gwe-gamera, a negeseua sydyn ar y Rhyngrwyd.
Rhyddhawyd gyntaf yn 2003 gan y datblygwyr Ahti Heinla, Priit Kasesalu, a Jaan Tallinn, o Estonia,[1] a chafodd ei brynu gan Microsoft yn 2011 am $8.5 biliwn.[2] Heddiw lleolir pencadlys Skype yn Lwcsembwrg ond lleolir y rhan fwyaf o'r tîm datblygu a 44% o'r holl weithwyr yn Tallinn a Tartu, Estonia.[3]
Yn 2010 roedd gan Skype 663 miliwn o ddefnyddwyr cofrestredig.[4]
Er nad yw'r Gymraeg ymhlith yr ieithoedd sydd ar gael yn y fersiwn swyddogol, mae Microsoft wedi ei gwneud hi'n bosib i addasu iaith y rhyngwyneb oddi fewn i'r rhaglen. Yn Hydref 2013, cyhoeddwyd ffeil rhyngwyneb Cymraeg i Skype ar Windows gan Aled Powell. Mae'r ffeil ar gael i'w lawrlwytho am ddim ac yn cael ei diweddaru wrth i fersiynau newydd o Skype gael ei rhyddhau.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Andreas Thomann (6 Medi 2006). "Skype – A Baltic Success Story". credit-suisse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2012. Cyrchwyd 24 Chwefror 2008.
- ↑ "Microsoft confirms takeover of Skype". bbc.com. 10 Mai 2011. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2012.
- ↑ "Tony Bates Weighs in on Microsoft's Acquisition of Skype". Skyp.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Hydref 2011. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2012.
- ↑ "Skype grows FY revenues 20%, reaches 663 mln users".
- ↑ Aled Powell. "Newid Rhyngwyneb Skype i'r Gymraeg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Chwefror 2015. Cyrchwyd 2 Chwefror 2015.
