Siop Dan Evans y Barri

Oddi ar Wicipedia
Siop Dan Evans y Barri
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAlcwyn Deiniol Evans
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi25/06/2014
ArgaeleddAr gael
ISBN9781845274771
GenreCofiannau Cymraeg

Cyfrol gan Alcwyn Deiniol Evans yw Siop Dan Evans y Barri a gyhoeddwyd yn 2014 gan Wasg Carreg Gwalch. Man cyhoeddi: Llanrwst, Cymru.[1]

Roedd Siop Dan Evans y Barri yn un o'r siopau mwyaf yng Nghymru rhyw gan mlynedd yn ôl. Yn y diwedd, bu'n rhaid iddi gau oherwydd y newidiadau cyfoes mewn arferion siopa. Yn y gyfrol hon cawn hanes sut y tyfodd gyda thwf y dref drwy ddylanwad un dyn, sef Dan Evans. Bu'r busnes hefyd yn hwb i Gymreigrwydd y Barri, a fu o'r dechrau yn feicrocosm o'r byd gyda'i chymunedau.

Roedd Siop Dan Evans y Barri yn un o'r siopau mwyaf yng Nghymru rhyw gan mlynedd yn ôl. Yn y diwedd, bu'n rhaid iddi gau oherwydd y newidiadau cyfoes mewn arferion siopa.

Mae'n stori sy'n ysbrydoli pobl sydd am fentro ar eu liwt eu hunain ym mhob oes – gan ddangos sut mae cynnwys y gymuned yn y busnes gyda sensitifrwydd a brwdfrydedd. Mae'n oes yn wahanol heddiw, ond yr un yw'r egwyddorion. Yn ogystal ag adrodd y stori mewn geiriau, mae'r gyfrol hon yn cynnwys degau o luniau o bob cyfnod y bu'r siop yn marchnata.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017