Siba

Oddi ar Wicipedia
Siba
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
PriodAhasia Brenin Jwda Edit this on Wikidata
PlantJoas Brenin Jwda Edit this on Wikidata

Sibia, (Hebraeg: צִבְיָה; Tsivyah, "gafrewig" [1]) oedd brenhines gydweddog y Brenin Ahasia o Jwda, a mam y Brenin Joas. Roedd hi'n dod o Beerseeba. Dim ond yn 2 Brenhinoedd 12:1 a 2 Cronicl 24:1 [2] y sonnir amdani, y ddau gyfeiriad at esgyniad ei mab. Nid yw'r cyfeiriadau Beiblaidd yn rhoi unrhyw wybodaeth amdani heblaw am ei chysylltiad â Beerseeba a Joas.

Mae'r ffaith ei bod yn dod o Beerseeba yn dynodi strategaeth ddeheuol gan frenin Jwda, yn ceisio cydgrynhoi rheolaeth yr ardal.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net
  1. David Mandel (1 January 2010). Who's Who in the Jewish Bible. Jewish Publication Society. t. 416. ISBN 978-0-8276-1029-3.
  2. 2 Brenhinoedd 12:1, 2 Cronicl 24:1

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Rhestr o fenywod y Beibl