Shintō
Math o gyfrwng | crefydd ethnig, ffordd o fyw |
---|---|
Math | crefydd y werin, crefydd amldduwiol |
Dechrau/Sefydlu | Unknown |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ysbrydolrwydd brodorol Japan a phobl Japan ydy Shintō (神道 Shintō), hefyd kami-no-michi. Mae'n set o ymarferiadau i'w gwneud yn ddiwyd er mwyn sefydlu cysylltiad rhwng Japan heddiw a'i gorffennol hynafol.[1] Cofnodwyd ymarferiadau Shinto gyntaf mewn llyfrau hanesyddol o'r enw'r Kojiki a'r Nihon Shoki yn yr 8g. Wedi hynny, nid yw'r ysgrifeniadau Japaneaidd hyn yn cyfeirio at "grefydd Shinto" unedig, ond yn hytrach at fytholeg, hanes, a llên gwerin anniben.[2] Heddiw, rhoddir y term "Shinto" i gysegrfeydd cyhoeddus sy'n addas i wahanol ddibenion megis cofebion rhyfel, gwyliau cynhaeaf, rhamant, a henebion hanesyddol, yn ogystal â gwahanol sefydliadau enwadol. Mae ymarferwyr yn mynegi eu credoau amrywiol trwy gyfrwng iaith ac arfer safonol, gan fabwysiadu dull tebyg mewn gwisg a defodol, yn dyddio o tuag adeg y Nara a Chyfnodau Heian.[2]
Mabwysiadwyd y gair Shinto ("Ffordd y Duwiau") gan Tsieinëeg ysgrifenedig (神道, pinyin: shén dào),[3] yn cyfuno dau kanji: "shin" (神), sy'n golygu "ysbryd" neu kami; a "tō" (道), sy'n golygu llwybr neu astudiaeth athronyddol (o'r gair Tsieinëeg dào).[2][3] Diffinnir Kami fel "ysbrydion", "hanfodion" neu "duwiau", sy'n gysylltiedig â nifer o fformatau eraill; mewn rhai achosion maent yn ddynol, mewn eraill maent yn animistaidd, ac mewn eraill maent yn gysylltiedig â grymoedd mwy haniaethol "naturiol" yn y byd (mynyddoedd, afonydd, mellt, gwynt, tonnau, coed, creigiau). Nid yw kami a phobl ar wahân i'w gilydd; maent yn bodoli o fewn yr un byd ac yn rhannu ei gymhlethdod rhyngberthynol.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ John Nelson. A Year in the Life of a Shinto Shrine. 1996. tt. 7–8
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Richard Pilgrim, Robert Ellwood (1985). Japanese Religion (arg. 1st). Englewood Cliffs, New Jersey: Prentice Hall Inc. t. 18–19. ISBN 0-13-509282-5.
- ↑ 3.0 3.1 Sokyo, Ono (1962). Shinto: The Kami Way (arg. 1st). Rutland, VT: Charles E Tuttle Co. t. 2. ISBN 0-8048-1960-2. OCLC 40672426.