Shilpa Shetty

Oddi ar Wicipedia
Shilpa Shetty
Ganwyd8 Mehefin 1975 Edit this on Wikidata
Mangalore, India Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIndia Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, model, karateka, actor ffilm Edit this on Wikidata
Taldra1.76 metr Edit this on Wikidata
PriodRaj Kundra Edit this on Wikidata
PlantViaan Raj Kundra Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Mae Shilpa Shetty (Tulu: ಶಿಲ್ಪ ಶೆಟ್ಟಿ; ganed 8 Mehefin 1975) yn actores a model o'r India. Ers ymddangos yn ei ffilm gyntaf Baazigar (1993), mae hi wedi bod mewn bron i 40 o ffilmiau 40 Hindi, Tamil, Telugu a Kannada, gyda'i phrif rôl gyntaf yn y ffilm Aag (1994). Er i'w gyrfa ddirywio'n sylweddol dros y blynyddoedd, mae Shetty wedi ail-greu ei delwedd yn rheolaidd. Gwerthfawrogwyd ei pherfformiadau yn Dhadkan (2000) a Rishtey (2002), tra bod ei phortread o berson yn dioddef o AIDS yn Phir Milenge (2004) wedi ennill nifer o wobrau iddi. MAe ei chwaer ieuengaf, Shamita Shetty hefyd yn actores mewn ffilmiau Bollywood.

Mae Shetty wedi cael ei chysylltu droeon â phynciau dadleuol, gan gynnwys amheuon fod ganddi gysylltiadau â'r Maffia. Ar ôl iddi gyrmyd rhan yn y rhaglen deledu Brydeinig, "Celebrity Big Brother" yn 2007, fe'i coronwyd fel enillydd y gyfres pan dderbyniodd 63% o'r bleidlais gyhoeddus.[1] Tra ar y rhaglen hon, cafwyd anghydfod hiliol rhyngwladol rhyngddi hi a'i chyd-gystadleuwyr Jade Goody, Jo O'Meara a Danielle Lloyd. Arweiniodd hyn at Shetty'n ail-sefydlu ei hun ym myd ffilmiau ac ymddangosodd mewn dwy ffilm, Life in a... Metro a Apne, gyda'i pherfformiadau'n derbyn adolygiadau cadarnhaol iawn wrth y beirniaid.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]