Shane Summers
Shane Summers | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mehefin 1936 Yr Orsedd |
Bu farw | 1 Mehefin 1961 o damwain cerbyd Brands Hatch |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gyrrwr ceir cyflym, gyrrwr Fformiwla Un |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gyrrwr rasio o Gymru oedd Shane Lister Summers (23 Mehefin 1936 - 1 Mehefin 1961), a aned yn Yr Orsedd, Sir Ddinbych.[1] Er ei fod wedi rasio mewn Fformiwla Un, ni wnaeth erioed gymryd rhan mewn digwyddiad Pencampwriaeth y Byd. Roedd yn fab i'r gwleidydd Ceidwadol Spencer Summers .
Ym 1960, cafodd Summers tymor rasio llwyddiannus mewn car rasio Lotus 15 a baratowyd gan Terry Bartram,[2] ac am y tymor canlynol, penderfynodd Bartram ac ef rhoi cais ar rasio Fformiwla Un gyda char Cooper T53 newydd, rhif siasi F1-8-61.[3]
Yn ras agoriadol y tymor, Tlws Lombank, nad oedd yn rhan o'r Bencampwriaeth, fe wnaeth Summers, 24 oed, cymhwyso yn y ddegfed lle allan o 14 ymgeisydd, gan orffen yr wythfed safle, sef y safle cymhwyso olaf. Yr wythnos ganlynol fe gwblhaodd ras y Tlws Glover ar ôl cymhwyso eto yn y ddegfed safle. Wedi teithio i Ewrop ar gyfer y ddwy ras nesaf, gwrthodwyd iddo ddechrau ar Grand Prix Brwsel 1961 er iddo gyraedd y 12fed amser cyflymaf wrth gymhwyso, ond dechreuodd o'r rhes flaen yn Grand Prix Fienna. O'r ail safle ar y grid, rhedodd yn agos at y tu blaen nes i hongiad y car methu.
Gan ddychwelyd i'r DU, cystadleuodd Summers yn yr Aintree 200, gan gymhwyso 13eg o 28 o ddechreuwyr, a gorffen yn 12fed safle. Mis yn ddiweddarach enillodd ei ganlyniad gorau, gan orffen yn bedwerydd yn Nhlws Llundain. Fodd bynnag, yn ystod ymarfer yn y glaw ar gyfer ras Tlws y Silver City yn Brands Hatch, lladdwyd Summers pan aeth ei gar allan o reolaeth ar Gornel Paddock Hill trwy gael gwrthdrawiad a wal goncrit wrth fynedfa twnnel y pwll.[4]