Sgwrs Wicipedia:Negesfwrdd gweinyddiaeth/Fandaliaeth y Wicipedia Cymraeg 2011

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pwrpas

Pam fod gennym y dudalen hon? Os ydym yn poeni am ddefnydd drwg o'r wybodaeth yma, dylwn ni jyst dileu'r holl wybodaeth a'i hanes. Mae pawb yn gallu gweld hwn, a ar y Caffi neu fan hyn ydyw. Dwi o blaid jyst cael gwared â fe - os oes angen, rydym yn gallu ôl-edrych... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:58, 19 Medi 2011 (UTC)[ateb]

Haia Glenn. Dw i ddim yn meddwl y daw Oxford / Alan012 yn ol; mae eisiau cadw ei swydd. Ond mae angen rhyw gofnod o'r hyn ddigwyddodd, fel canllaw i ni, yn y dyfodol. Dw i'n bwriadu ychwanegu rhai o sylwadau yn fama, mewn un lle. Dw i wedi cuddio'r dudalen, bellach hefyd. Ar y llaw arall, tydy'r drafodaeth ar gloi Wici rhag Defnyddwyr sydd heb gofrestru ddim mor bwysig a hynny, felly dw i wedi dileu hwnnw. Dw i ddim yn bwriadu gwastarffu llawer o amser efo'r dudalen yma, ond mae rhai pethau sydd angen eu cofio a'u cadw. Gellir hefyd defnyddio'r dudalen os oes angen trafod Bambifan ayb; a hynny allan o olwg y byd a'r betws! Llywelyn2000 05:12, 20 Medi 2011 (UTC)[ateb]
Nage, sai'n credu y bydd e'n ôl chwaith. Oes, dwi'n cytuno bod angen cofnod, ond beth am inni greu is-dudalen ar y negesgfwrdd gweinyddiaeth? Wedyn, na fyddai'n ymddangos yn y ddewislen wrth ymchwilio erthyglau. Neu ei droi'n dudalen Wicipedai:, oherwydd nad ydynt yn cael eu cynnwys mewn chwiliadau chwaith. Cyn imi fewngofnodi, rhoddais gynnig ar gyrchu'r dudalen yma hefyd - roeddwn yn gallu gweld pob dim... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:38, 20 Medi 2011 (UTC)[ateb]
Syniad gwell! Diolch Glenn Llywelyn2000 16:47, 20 Medi 2011 (UTC)[ateb]
Dim probs. Creaf yr is-dudalen ar y negesfwrdd ac wedyn dileu'r un yma. Dyn ni ddim yn gallu cael Wicipedia:Fandaliaeth fel tudalen drafod, oherwydd bod angen un i lywio polisïau yn erbyn fandaliaeth arnom, fel en:Wikipedia:Vandalism sydd ar en. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:39, 20 Medi 2011 (UTC)[ateb]