Sgwrs Wicipedia:Golygathon Caerdydd 2012
Hyrwyddo a Chyhoeddusrwydd
[golygu cod]URL hawdd i'w gofio/rannu
[golygu cod]Defnyddiwch hwn ar unrhyw ddeunydd hyrwyddo neu ar lafar: eincaerdydd.com/golygathon
Dw i wedi creu Digwyddiad Facebook ar gyfer y digwyddiad - falle bydd hyn yn haws i chi ei hyrwyddo ymysg eich ffrindiau ac ei wneud yn haws i ddarpar gyfranwyr nodi eu bod am ddod.
Datganiad i'r wasg
[golygu cod]Dw i am drio danfon rhywbeth. Croeso i eraill wneud, yn arbennig os oes cysylltiafau gyda chi,
Radio Cymru
[golygu cod]Diolch i Defnyddiwr:Rhodri ap Dyfrig am y plyg ar Radio Cymru.--Ben Bore (sgwrs) 15:21, 15 Mehefin 2012 (UTC)
- BenBore: beth am eitem arno ar Radio Cymru? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:23, 25 Mehefin 2012 (UTC)
Hanfodion ar gyfer y dydd
[golygu cod]Bwyd
[golygu cod]Mae Wikimedia UK am gyfrannu at gost bwyd ar y dydd. Bydd hyn yn golygu brechdannau o siop gerllaw.
Bathodynnau enw
[golygu cod]Falle bod hyn yn mynd dros ben llestri (dw i'n meddwl bod o), ond os oes gan rhywun yr amynedd, beth am greu rhwybeth fel sy ar y dde.
Beth sydd ei angen
[golygu cod]Falle byddai'n syniad i chi ddod a'r canlyno:
- Beiros/pensal (mae papur sgrap i'w gael yn y llyfrgell fel arfer)
- Camera digodol
- Gliniadur (os oes meddalwedd golygu arbennig arnos byddwch ei angen sy'n anhebygol o fod ar gyfrifiaduron y llyfrgell)
Mae'r canlynol i fi (Rhys) gofio dod efo fi:
- Marker ar gyfer bwrdd gwyn
- Post-it-notes
- Platiau papur a napkins (ar gyfer cinio)
Trîts
[golygu cod]Bydd angen rhywbeth fel hyn (ar y dde) yn danwydd i ni. Oes rhywun yn gallu pobi? --Ben Bore (sgwrs) 13:59, 11 Mehefin 2012 (UTC)
- Dw i heb cael amser i bobi ond dw i'n fodlon prynu cacennau o'r siop i chi! --Oergell (sgwrs) 10:45, 30 Mehefin 2012 (UTC)
Post Mortem
[golygu cod]Llwyddiant ysgubol! Diolch i bawb am eich cwmni, ac i Rhys am drefnu! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:05, 1 Gorffennaf 2012 (UTC)