Sgwrs Nodyn:Pen pwll tywod - peidiwch â dileu'r llinell hon os gwelwch yn dda.

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dim ond Sais ydw i, ond roeddwn i'n meddwl nad yw geiriau gyda "ll" neu "rh" yn treiglo ar ôl y fannod. Llais Sais 20:00, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Eitha gwir. Teipo efallai? Anatiomaros 20:09, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Mae Sais yn gywir, mae Anat yn hanner gywir - symudodd Llew y tudalen i "...dileu'r linell hon...." ond dwi wedi diwydio'r teitl i adlewyrchu Cymraeg cywir. Ti'n llygaid dy le, Sais! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:49, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Diolch, ond Llyw nid Llew y dylai fod! Llais Sais 20:52, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Ŵps! Rwy'n flin, Llyw! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:15, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Na, defnyddio'r ffurf lafar oeddwn i fel dw i'n ei wneud yn eitha aml mewn erthyglau; chlywais i neb ers dyddia coleg yn deud "y llinell" ac mae'n hen bryd derbyn "y linell hon". Ond, gan ei fod mewn rhan eitha swyddogol o Wici, yna efallai mai gwell fyddai ei gadw'n glasurol-gywir. Rhyfedd na welaist ti mono, LL S, pan oeddet ti'n bocha yn y pwll tywod? Y gronynnau'n dy lygid, wrach? Llywelyn2000 21:48, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Diolch Llywelyn, a nos da eto. Rwy'n gobeithio tynnu anrhegion blasus newydd allan o fy nghrochan ar dy gyfer yfory. Cofion, Y Wrach. Llais Sais
Dwi'n cytuno â thi, Llyw, bod yn hen bryd i'r Gymraeg gael ei hailwampio, ond fel dysgwr yn hunan, mae "y linell" yn swnio'n od iawn imi ;) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:30, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Ha! Da iawn. Digon gwir; be 'da ni 'di arfer ag o; hwna ydy o! Llywelyn2000 22:46, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]