Sgwrs Nodyn:Angen ffynhonnell

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Diolch am greu'r nodyn, Alan, ond mae 'na broblem bach. Mae'n gwneud i'r ffont newid ar ôl y nodyn (gw. Castell Penfro). Yn anffodus mae'r nodyn ar en: wedi'i chloi i bawb ond gweinyddwyr felly fedra'i ddim gweld pa fformat mae nhw'n defnyddio (en:Template:Fact). Anatiomaros 23:40, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Sori, gwall bach. Ydy hon yn ei gywiro? Alan 23:44, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ydy, diolch. Piti fod yr holl nodiadau cyffelyb ar en: wedi'u cloi yn gyfangwbl hefyd. Rhywsut dydy'r nodyn yma ddim yn sefyll allan 'run fath ag ar en:. Anatiomaros 23:49, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Am y nodyn Saesneg: ceir weld côd y dudalen hyd yn oed os yw'r nodyn wedi'i chloi... ond mae'r nodyn yn defnyddio nodyn gyffredinol iawn, "Fix", ac mae cystrawen y nodyn honno yn gymhleth iawn... (gwela [1]) - dw i ddim am ei gopïo yma, dweud y gwir. Alan 23:51, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Hmm, dwi'n gweld be ti'n feddwl! Rhy gymhleth o lawer i mi. Mae Alan7davies yn dda efo'r pethau technegol 'ma. Basai'n syniad gofyn iddo gael golwg efallai? Anatiomaros 23:54, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ti'n golygu "Adam" :-) Dwi newydd wneud y geiriau "angen ffynhonnell" gyfeirio at dudalen gydag esboniad, fel en:Wikipedia:Citation needed, ond heb wedi'i chreu, ac mae'r nodyn arall am broblemau iaith yn gwneud rhywbeth o debyg. Allet ti greu'r tudalennau hyn os gweli di'n dda? Alan 00:01, 9 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

PWYSIG! Cyfieithwyd y darn. OND...[golygu cod]

Alan. Mae'r darn cyfan a gyfieithwyd yn cael ei dynnu a'i osod ar bob tudalen. Ydw i wedi gosod y cyfieithiad ar y dudalen anghywir? Llywelyn2000 05:35, 10 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Wyt :-) Ond diolch am y cyfieithiad. Dwi wedi symud dy destun i'r dudalen gywir. Alan 16:41, 10 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]