Neidio i'r cynnwys

Sgwrs Delwedd:Gwledydd-ewrop.jpg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae rhai o'r enwau ar y map hwn yn dipyn o embaras: e.e. "Y Gwlad Belg" ac "Y Gwlad Pwyl". Gan ei fod i'w weld mewn lle amlwg iawn yn y brif erthygl ar Ewrop mae angen newid hyn a chywirio'r enwau (does dim cytundeb ar y ffurf "gywir" ar rai ohonyn nhw, ond o leiaf mi ddylen nhw fod yn ramadegol gywir!). Anatiomaros 20:11, 19 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Gwallau'r map[golygu cod]

Yn ogystal a'r uchod (+ dylid newid 'Iwerddon' i 'Gweriniaeth Iwerddon'), tydy'r map ddim yn dangos Andora na gwladwriaeth newydd Montenegro. Dw i'n meddwl y dylid ei hepgor o erthygl Ewrop ac efallai dileu'r map yn gyfan gwbl?--Ben Bore 10:20, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Roeddwn i wedi anghofio'n llwyr am hyn. A dweud y gwir mae'r map yn warthus (gellid ychwanegu "Y Gwer. Tsiec" hefyd...). Ond basai'n braf cael rhywbeth yn ei le am fod angen map o wledydd Ewrop. Yn ddelfrydol dylai fod yn Gymraeg, ond basa map Ffrangeg neu Almaeneg - Saesneg neu Rwseg hyd yn oed - yn well na hyn. Anatiomaros 17:18, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Mae 'na ragor o fapiau yn yr un dosbarth, e.e. Delwedd:Gwledydd-affrica.jpg a'r gweddill sydd yma. Un enghraifft: "Gweriniaeth Canol Affricanaidd"(!!!). Anatiomaros 17:24, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Beth am ddefnyddio Delwedd:Europa zemljevid.png, sy'n defnyddio rhifau, yna gellir rhoi enwau'r gwledydd oddi tanodd. Rhion 18:05, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Perffaith (wel, yn absenoldeb un Cymraeg...). Oes 'na rai eraill ar gael? Affrica, De America, Asia? Anatiomaros 18:48, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]