Sgwrs Defnyddiwr:Thiscouldbeauser

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Rwyf wedi symud y tudalennau Siaosi Tupou V, brenin Tonga a Coup d'état Simbabwe (2017) yn ôl i'w lleoedd gwreiddiol. Peidiwch â symud rhagor o dudalennau heb ymgynghori â'r bobl a greodd y tudalennau os gwelwch yn dda. Fel arfer mae rhesymau da dros ddewis y penawdau.

Nid "Siôr" yw enw'r dyn. Mae "George" yn fersiwn Seisnigedig o'i enw. Does dim pwynt Cymreigio'r fersiwn Saesneg.

Dyw "Cipio'r deyrnas Simbabwe" ddim yn gwneud synnwyr o gwbl. Nid yw Simbabwe yn deyrnas. Mae "coup d'état" yn gwbl dderbyniol yn y Gymraeg. Does dim term Cymraeg sy'n cyfateb iddo yn union. Dim ond ychydig o awgrymiadau y mae Geiriadur yr Academi yn eu cynnig.

--Craigysgafn (sgwrs) 23:57, 20 Ionawr 2023 (UTC)[ateb]