Sgwrs Defnyddiwr:Owain

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Croeso! Deb 17:42, 23 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Warning!

Thank you, Owain, for your new article, or contributions to, Siroedd cadwedig Cymru.

Sorry us, but we removed her, because it appears that automatic translation product engine (like Google Translate) was.

If you want to see an article about that subject on Wikipedia, which you can write it in the original Welsh rather than with the help of machine translation?

Thank you.

Confused?! Read an explanation to this garbled English message here

Rhybudd!

Diolch, Owain, am eich erthygl newydd am, neu gyfraniadau at, Siroedd cadwedig Cymru.

Mae'n flin gennym ni, ond cafwyd gwared arni hi, oherwydd ymddengys mai cynnyrch peiriant cyfieithu awtomatig (fel Google Translate) yr oedd.

Os ydych am weld erthygl am y pwnc hwnnw ar y Wicipedia hwn, a allwch ei hysgrifennu hi mewn Cymraeg gwreiddiol yn hytrach na gyda chymorth peiriant cyfieithu?

Diolch.

--Ben Bore 12:06, 26 Awst 2011 (UTC)[ateb]

I beg your pardon, I see you copied and pasted info form another page. --Ben Bore 12:32, 26 Awst 2011 (UTC)[ateb]


GOFAL!

Dw i newydd fod drwy dy olygiadau ac mae llawer fel hwn yn wallus. Dydy hyn yn ddim llai na fandaliaeth yn fy marn i. Dwyt ti ddim yn deall y categoriau (ee Siroedd Cadwedig). Os bydd rhagor, mi wna i dy rwystro rhag medru golygiu ar cywici. @AlwynapHuw: de ja vou? Llywelyn2000 (sgwrs) 15:25, 14 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]

Dyfarnwyd statws dinas i Gasnewydd yn 2002. Sut mae hynny'n anghywir? Hefyd, dwi'n deall y gwahanol gategorïau ac wedi bod yn golygu yma ers 2004! Owain (sgwrs) 15:37, 14 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
Mae Trefonnen o fewn sir o'r enw Casnewydd, ond nid yn y ddinas o'r un enw h.y. Mae Trefonnen i'r de o'r ddinas Casnewydd, ac nid ynddi hi. Enghraifft arall: newid o ddisgrifiad manwl i gyffredinoli - a hynny'n ddiangen. Sylwais hefyd i ti ddechrau golygu nodyn, er bod y nodyn hwnnw ar filoedd o erthyglau. Byddai gadael nodyn ar y ddalen sgwrs yn well syniad. Roedd dy olygiad yma yn dileu'r Ddraig Goch oddi ar y faner a ymddangosai ar lawer o erthyglau. Pam wnest ti hynny heb drafodaeth? Llywelyn2000 (sgwrs) 16:39, 14 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
1. Mae gan fwrdeistref sirol Casnewydd arddull dinas. Mae'n un peth a'r un peth. 2. Ydych chi'n siarad am dempled y ddinas? Fe wnes i ei drosi i ddefnyddio'r templed "Llywio" safonol. 3. Mae'n ymddangos eich bod wedi dadwneud y ddau newid templed. Pam? Owain (sgwrs) 16:48, 14 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
'Arddull dinas'? Beth wyt yn ei olygu? Unwaith eto, roedd yr hyn wnest ei gywiro (gan Aniatomaros) yn hollol gywira - ym Mwrdeisdref Sirol Casnewydd, sy'n hollol gywir. Mae'r hyn roist ti yn anghywir. Dydw i ddim yn deall Mae'n un peth a'r un peth.: mae'r dweud yn annealladwy i mi. Dw i'n son am Nodyn ar gyfer dinasoedd Cymru (Nodyn:Dinas yng Nghymru ), lle dynaist y Ddraig Goch ohoni. Dy amddiffyniad yw gan dy fod am ddefnyddio'r templed "Llywio" safonol! Pa safon? Ble ar cywici ydyn ni'n dweud nad oes angen Draig Goch? Nunlle. Dyna pam dw i wedi dadwneud dy olygiad. Ac am yr ail nodyn, dw i eisioes wedi egluro: bod y nodyn hwnnw ar filoedd o erthyglau. Byddai gadael nodyn ar y ddalen sgwrs yn well syniad. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:15, 14 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
1. Gweler https://en.wikipedia.org/wiki/List_of_Welsh_principal_areas_by_population. Gweler hefyd https://www.legislation.gov.uk/wsi/2019/568/schedule/made/welsh. Hefyd, mae gan y brif ardal hefyd "gyngor dinas" nid "cyngor bwrdeistref sirol". Yr un peth ydyw. 2. Tabl wiki yn unig oedd templed y ddinas, ond dylai fod wedi defnyddio "Nodyn: Llywio" i wneud iddo edrych fel pob templed arall. Rwy’n siŵr y gellid gosod Draig Goch ynddo pe dymunwch. Owain (sgwrs) 17:31, 14 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
Does dim byd yn y ddwy ddolen yn atgyfnerthu dy ddadl. Er mwyn bod yn eglur, rhaid gwahaniaethu rhwng y ddinas a'r fwrdeisdref sirol. Roedd dy olygiad yn anghywir ac yn cymhlethu'r darllenydd. Pob templad arall - na; mae Nodyn:Dinasoedd Albania a Nodyn:Dinasoedd Belarws yn enghreifftiau lle ceir baner gwlad. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:48, 15 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
Mae gan y fwrdeistref sirol statws dinas. Mae'r ddeddfwriaeth yn cydnabod y ffin Weinyddol rhwng sir Sir Fynwy a dinas Casnewydd. Mae hynny'n profi fy mhwynt yn llwyr! O ran y faner, ychwanegwch hi yn ôl i mewn. Fy mwriad oedd safoni edrychiad y templedi i wneud i'r erthyglau edrych yn brafiach a gwneud y wici yn haws i'w defnyddio. Owain (sgwrs) 08:55, 15 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]