Sgwrs Categori:Tudalennau â phroblemau ieithyddol

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ydy hi'n bryd i ni gael system o ddileu erthyglau sy'n y categori yma - sy'n hŷn na blwyddyn mis? Mae hynny'n ddigon o gyfle i rywun ei chywiro! neu fel arall, rydym yn derbyn drafftiau anghywir, gwallus. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:48, 27 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Mae "erthyglau" fel y rhain yn boen a deud y lleia - fel tasa 'na ddim digon i'w neud yma'n barod! - ond mae'n anodd cael un rheol gyffredinol achos mae'n dibynnu ar bwnc yr erthygl. Yn achos rhyw gobbledegook amhosibl i'w gywiro mewn erthygl am rywun neu rywbeth ymylol, e.e. rhyw bentref di-nod yn Ewrop, dwi'n cynnig eu dileu ar unwaith beth bynnag, heb eu rhoi yma, ond gwelaf fod y categori hwn yn cynnwys yr Undeb Sofietaidd ac felly yn bendant mae angen erthyglau fel hynny. Yr ateb dros dro yn achos tudalennau fel yr Undeb Sofietaidd ydy cywiro'r llinellau agoriadol yn unig a chael gwared o weddill y testun i adael eginyn derbynnol. Anatiomaros (sgwrs) 17:38, 27 Awst 2013 (UTC)[ateb]
(Er enghraifft: fel hyn.) Anatiomaros (sgwrs) 17:40, 27 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Cytuno. Does dim yn erbyn rhoi canllaw yn ei le, fodd bynnag, fel bod erthyglau fel Manceinion Unedig neu dy enghraifft di (Undeb Sofietaidd) yn cael eu gwneud o fewn cyfnod penodedig. Efallai y dylem gael blits ar y rhai sydd yno yn ystod y deuddydd nesaf a chytuno fod ymosod ar y rhain yn flaenoriaeth gan bawb. Os ydy'r ffenast siop yn fler, dyna'r lle i gychwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:41, 27 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Cytuno, hefyd, er nad fy mod ond defnyddiwr newydd sy ddim yn medru'r Gymraeg yn dda iawn. Cathfolant (sgwrs) 20:54, 27 Awst 2013 (UTC)[ateb]