Sgwrs:Y Gwrthddiwygwyr Cymreig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

A allwn ni gael nodyn o ffynonellau'r erthygl hon ar waelod yr erthygl? Lloffiwr 12:32, 25 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Roedd y cyfraniad gwreiddiol gan ddefnyddiwr di-enw. Wnes i ddiwygio'r testun yn sylweddol am ei fod yn cymryd safbwynt personol, pro-Gatholig. Dwi'n amau mai traethawd gan fyfyriwr prifysgol oedd y testun gwreiddiol. Hyd y gwelaf does dim byd ffeithiol anghywir yn y testun. Mae'n wybodaeth sydd ar gael mewn unrhyw lyfr safonol ar y cyfnod. Wedi dweud hynny mae angen mynd drosto eto. Mae'n darllen yn well rwan ond mae'n dal i fod yn ddidrefn braidd ac yn ailadroddus. Anatiomaros 15:33, 25 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Mae'n swnio fel bod yr erthygl yn defnyddio llyfr Angharad Price Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal (Llên y llenor) 2005, ond does gen i ddim copi wrth law ar y funud. Rhion 15:46, 25 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Diolch am yr ymateb - wedi rhoi'r llyfr uchod mewn adran llyfryddiaeth yn hytrach nag adran ffynonellau am nawr. Mae'n wir bod rhywfaint o arddull bocs sebon yn dal i fod ar yr erthygl. Edrych ymlaen at weld beth ddaw ohoni:-) Lloffiwr 19:07, 25 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Dwi wedi ceisio ei diwygio unwaith eto, gan dorri allan cymaint â phosibl o'r "arddull bocs sebon" / POV Catholig, a'r darnau ail-adroddus. Dwi wedi creu trefn wici / paragraffio hefyd, ond ofnaf fod rhaid ailsgwennu rhannau'n sylweddol er mwyn gwneud hynny'n iawn! Anatiomaros 20:56, 3 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]
Diolch Lloffiwr 16:50, 6 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]
Croeso. Anatiomaros 16:55, 6 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]