Sgwrs:Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Mae'r pethau dywedodd y Brenin Harri Tudur am y Ddeddf Uno yn yr 16ed ganrif yn ddiddorol, yn tydyn? Yn enwedig gan feddwl sut oedd pethau yn yr adeg Fictorianaidd, a mae'n od sut mae'r sefyllfa 'di newid - y ffordd mae'n rhaid siarad Cymraeg i gael rhai swyddi yng Nghymru, rwan a mae yna llefydd fel Nant Gwrtheyrn yn Nwyfor lle mae'r staff yn rhedeg cyrsiau iaith yn ENWEDIG i wahanol gweithleoedd.

 Ydy pobl yn cytuno?

Ydi, mae'r rhod wedi troi, a'n hiaith wedi adennill rhywfaint o barch. Ond mae'r rhan fwyaf o'r difrod a wnaeth y Ddeddf Uno i le'r iaith yng Nghymru yn dal gyda ni. Fflwffan 13:10, 3 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Cytunaf yn llwyr â sylwadau Fflwffan. Rhan o'r gwaith sydd ei angen i adennill i'r iaith ei lle priodol ym mywyd ein cenedl ydi prosiectau fel y Wicipedia Cymraeg. Ond mae'n ymddangos imi mai dim ond dyrnaid o gyfranwyr cyson sy' gennym ni, llawer o nhw'n ddysgwyr, a'i bod yn well gan nifer o Gymry Cymraeg gyfrannu i'r Wicipedia Saesneg (un enghraifft bach - edrychwch ar yr erthyglau ar Lanrwst a'r cylch ar y wiki Saesneg, yn amlwg wedi'u sgwennu gan bobl y fro - ac yna eu cymharu â'r tudalennau Cymraeg cyfatebol). Trist iawn; rhan o etifeddiaeth pwnc y dudalen hon! Gyda llaw, mae'n arferol i gyfeirio at "Y Deddfau Uno" (1536 a 1543). Awgrymaf symud y dudalen - dim pwynt mewn trafod y ddwy ddeddf ar wahân. Dwi am ychwanegu pwt i'r dudalen rwan ond mae gennyf ambell beth arall i wneud heddiw hefyd (mae 'na wledydd a diwyllianau cyfan heb air amdanynt yma!). Daliwch ati! Anatiomaros 15:36, 3 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Teitl cofnod[golygu cod]

Ar hyn o bryd, teitl y cofnod yw: Y Deddfau 'Uno' 1536 a 1542-3. Mae hyn yn dilyn y cofnod yn Gwyddoniadur Cymru, t. 284, sy'n nodi er hynny fod yr enw hwn yn 'gamarweiniol'.

Term a fathwyd yn gynnar yn yr 20g yw 'Deddfau Uno', fel y dywed y Gwyddoniadur. Mae wedi dod yn gyffredin iawn erbyn heddiw. Ond nid yw'n derm niwtral gan ei fod yn y bôn yn adlewyrchu safbwynt gwleidyddol penodol sy'n ffafrio undod y Deyrnas Unedig ac sy'n dymuno gweld y deddfau hyn yn yr un termau â Deddfau Uno 1707 (a basiwyd gan seneddau'r Alban a Lloegr) a Deddf Uno 1800 (yn gywir Deddfau Uno 1800, a basiwyd gan seneddau Iwerddon a Phrydain Fawr). Yn achos yr Alban ac Iwerddon, fe gafodd y deddfau gydsyniad deddfwrfeydd y gwledydd hynny, ond yn achos Cymru yn San Steffan yn unig y pasiwyd y deddfau perthnasol. Felly mae cyplysu'r tair enghraifft yn awgrymu mai'r un oedd natur y broses, ond nid felly o gwbl. Byddai 'Deddfau Corffori Cymru yn Lloegr' yn enw mwy cywir mewn sawl ffordd. Ond nid disodli un dehongliad am un arall yw bwriad y nodyn hwn, ond gwneud cynnig amgen.

Pennwyd enw swyddogol y deddfau dan sylw gan y Statute Law Revision Act 1948. Yn Saesneg y gwnaed hynny wrth gwrs, gan esgor ar y 'Laws in Wales Act 1535' a'r 'Laws in Wales Act 1542' (gyda'i gilydd 'Laws in Wales Acts'). Y fersiynau Cymraeg ar hyn yw 'Deddf y Cyfreithiau yng Nghymru 1535' a 'Deddf y Cyfreithiau yng Nghymru 1542' — dyna a geir yn fersiwn Cymraeg o Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, er enghraifft.

Y cynnig felly yw newid enw'r cofnod i 'Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1535 a 1542'. Yn amlwg byddai modd cyfeirio at y term 'Y Deddfau Uno' mewn cromfachau ar ôl y teitl hwnnw. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Troellwr (sgwrscyfraniadau) 11:00, 2 Mawrth 2017‎


Cytuno! A diolch am dy ofal arferol! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:17, 2 Mawrth 2017 (UTC)[ateb]
Wnes i rioed feddwl! Ti'n iawn! Ac felly hefyd Deddf Uno 1800? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 12:22, 3 Mawrth 2017 (UTC)[ateb]